Arwain a Rheoli ADY

Module Identifier
ADM2920
Module Title
Arwain a Rheoli ADY
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Megan Hicks
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Lucy Trotter
Dr Megan Hicks
Mr Prysor Davies
Dr Rosemary Cann

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Testun cyfunol: 4000 Words 100%
Supplementary Assessment Testun cyfunol: 4000 Words 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Archwilio’n feirniadol swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol y CADY ac effaith hyn ar staff, plant a’u teuluoedd.
  2. Gwerthuso gwaith partneriaeth effeithiol yng nghyd-destun ADY, a dangos ymwybyddiaeth feirniadol o’r buddion a’r heriau.
  3. Datblygu cynllun strategol i weithredu ymyriadau a strategaethau priodol i gefnogi ADY yn eu cyd-destunau.
  4. Gwerthuso dulliau arwain a rheoli ADY yn effeithiol yn y lleoliad cyfan.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau hyfforddi ac arwain sydd eu hangen i fod yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) effeithiol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg. Bydd angen myfyrio’n fanwl ar feysydd o gryfder personol a meysydd i’w datblygu ar gyfer y modiwl. Defnyddir astudiaethau achos i archwilio swyddogaethau a chyfrifoldebau’r CADY mewn cysylltiad â phlant, teuluoedd a gweithio’n rhyngbroffesiynol. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth fanwl am strategaethau ymyrryd priodol ar gyfer y lleoliad cyfan i gefnogi’r rhai hynny ag ADY.

Aims

1. Datblygu dealltwriaeth fanwl o swyddogaeth y CADY a’r fframwaith statudol, gan gydnabod cymhlethdodau’r swyddogaeth;

2. Gwahaniaethu rhwng materion allweddol sy’n ymwneud â gweithio gydag eraill a’u dadansoddi, e.e. gweithio mewn partneriaeth â’r tîm amlddisgyblaethol a gweithio’n rhyngbroffesiynol;

3. Archwilio a gwerthuso’r gwaith o gynllunio a threfnu ymyriadau a strategaethau ar gyfer cefnogi ADY a chynhwysiant yn unol â safonau proffesiynol cydnabyddedig;

4. Archwilio’n feirniadol egwyddorion ac arferion allweddol cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes ADY a chynhwysiant.

Content

* Defnyddio astudiaethau achos i archwilio a nodi swyddogaethau a chyfrifoldebau’r CADY;

* Sefydlu cyd-destun polisi ADY yng Nghymru a’r goblygiadau i’r CADY.

* Nodi enghreifftiau o weithio’n effeithiol gydag eraill – gan gynnwys plant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol (buddion a heriau);

* Archwilio ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rhai hynny ag ADY;

* Nodi ac archwilio sgiliau cynllunio a threfnu;

* Dulliau ac arddulliau arwain, rheoli, hyfforddi a mentora;

* Gwahanol safbwyntiau o ran cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn deddfwriaeth ADY;

* Myfyrio ar gryfderau personol a meysydd i’w datblygu.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Creative Problem Solving Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Critical and analytical thinking Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Professional communication Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Real world sense Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol Drwy gydol y modiwl, caiff myfyrwyr eu hannog: a. I ddod i gasgliadau ynghylch eu harfer eu hunain er mwyn iddynt fod yn fwy hyderus
Subject Specific Skills Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.

Notes

This module is at CQFW Level 7