Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
- Module Identifier
- ADM3120
- Module Title
- Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester S
- Co-ordinator
- Dr Sian Lloyd-Williams
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Megan Hicks
- Mr Prysor Davies
- Dr Rosemary Cann
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Cynnig Ymholiad Ymchwil: 4000 Words | 100% |
| Supplementary Assessment | Cynnig Ymholiad Ymchwil: 4000 Words | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Cynllunio’u hastudiaethau ymchwil/ymholi annibynnol eu hunain yn eu cyd-destun/ysgol neu leoliad addysg eu hunain.
- Ymgysylltu’n feirniadol â llenyddiaeth ymchwil ryngwladol mewn ffyrdd sy’n llywio’u hymchwil annibynnol a’u harfer proffesiynol parhaus.
- Myfyrio ar y dadleuon damcaniaethol presennol yn y gwyddorau cymdeithasol ac mewn ymchwil addysgol er mwyn llywio’u penderfyniadau ynglŷn â chynlluniau ac ymholiadau ymchwil.
- Gwerthuso’n feirniadol brosesau ymchwil/ymholi uwch gan gynnwys cynllunio ymchwil, dadansoddi data a chynrychioli data.
- Gwerthuso’n feirniadol wahanol enghreifftiau, dulliau a safbwyntiau ymchwil a chymhwyso’r rhain i’w cyd-destun proffesiynol eu hunain.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau ymholi a’r wybodaeth ymchwil uwch sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gwblhau gradd Feistr drwy roi iddynt y sgiliau ymchwil, ymholi a dadansoddi sy’n angenrheidiol i ymgymryd â darn o ymchwil annibynnol yn eu cyd-destun eu hunain. Bydd y modiwl yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau arolygu llenyddiaeth, dylunio ymchwil, dadansoddiadau data a chynrychioli data a fydd yn cefnogi eu hymchwil bersonol a’u gwaith ymholi. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi dealltwriaeth helaeth i fyfyrwyr o ymchwil ryngwladol ar wahanol bynciau yn ogystal ag athroniaeth ymchwil a dulliau o ymchwilio, ynghyd â ffyrdd o ddadansoddi ac arddulliau cyflwyno.
Aims
1. Galluogi myfyrwyr i gynllunio a chynnal astudiaeth ymchwil/ymholi mewn ysgol/lleoliad addysg.
2. Annog myfyrwyr i ymgysylltu â llenyddiaeth ymchwil ryngwladol mewn ffyrdd sy’n llywio’u hymchwil annibynnol a’u harfer proffesiynol parhaus.
3. Archwilio’n feirniadol y safbwyntiau damcaniaethol a’r dulliau methodolegol sy’n sail i gynllunio ymchwil a phrosesau ymchwil ansoddol, meintiol ac ymholol.
4. Annog myfyrwyr i werthuso’n feirniadol brosesau ymchwil/ymholi uwch gan gynnwys datblygu sgiliau cynllunio ymchwil, dadansoddi data a chynrychioli data.
5. Rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr werthuso’n feirniadol wahanol enghreifftiau, dulliau a safbwyntiau ymchwil fel y gellir cymhwyso’r rhain i’w cyd-destun proffesiynol eu hunain.
Content
Cynllunio a chynnal astudiaeth ymchwil/ymholi annibynnol mewn ysgol/lleoliad addysg.
Cynnal adolygiad llenyddiaeth, gan ddefnyddio tystiolaeth ryngwladol, i lywio a llunio cynllun yr ymchwil.
Archwilio’r safbwyntiau damcaniaethol a’r dulliau methodolegol sy’n sail i gynllunio ymchwil mewn lleoliadau addysg.
Defnyddio dulliau ymchwil meintiol, ansoddol ac ymholol mewn lleoliadau addysg.
Dadansoddi data (data sylfaenol ac eilaidd) a chynrychioli data.
Gwerthuso gwahanol enghreifftiau, dulliau a safbwyntiau ymchwil ym maes ymchwil addysg.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl. |
| Creative Problem Solving | Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol. |
| Critical and analytical thinking | Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd. |
| Professional communication | Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol. |
| Real world sense | Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnolDrwy gydol y modiwl caiff myfyrwyr eu hannog: a. I ddod i gasgliadau dibynadwy yn seiliedig ar eu harferion ymchwilio/ymholi er mwyn iddyn |
| Subject Specific Skills | Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
