Cyflwyniad i Droseddeg

Module Identifier
CT22220
Module Title
Cyflwyniad i Droseddeg
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Miss Demi John
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
CT12220 or LC12220
Exclusive (Any Acad Year)
LC22220
Exclusive (Any Acad Year)
CT32220 or LC32220
Other Staff
Dr Heather Norris

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 2500 o eiriau 40%
Semester Assessment Perfformiad seminar: 20%
Semester Exam Arholiad Ar Lein: 1 Hours Arholiad sydd ddim yn cael ei weld ymlaen llaw 1.5 Awr 40%
Supplementary Assessment Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 1000 o eiriau 20%
Supplementary Assessment Traethawd: Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl 2500 o eiriau 40%
Supplementary Exam Arholiad ar lein: 1 Hours Nid yw'r arholiad yn cael ei weld ymlaen llaw 1.5 Awr 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth ddatblygedig o ddamcaniaethau troseddegol craidd;
  2. Nodi a chloriannu sail ontolegol ac epistemolegol ystod eang o ddamcaniaethau ym maes troseddeg;
  3. Dangos gwerthfawrogiad o sut y mae datblygiadau mewn theori droseddegol yn esblygu;
  4. Deall a chloriannu sut y mae troseddeg ddamcaniaethol wedi helpu i siapio’r system a’r prosesau cyfiawnder troseddol cyfoes;
  5. Nodi a dadansoddi’r cryfderau a’r cyfyngiadau o ran potensial esboniadol theori.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn ystyried safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy’n helpu i esbonio troseddu ac anrhefn gymdeithasol mewn cymdeithas. Mae’n gosod safbwyntiau troseddegol yn eu cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol gan ystyried eu perthnasedd a’u cymhwysiad yn y gymdeithas gyfoes a sut y maent wedi llywio systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol.

Content

Bydd y prif themâu a ystyrir yn cynnwys:

Cyflwyniad i Droseddeg

Troseddeg Glasurol a Dewis Rhesymegol

Troseddeg Fiolegol a’r Ysgol Bositifaidd

Troseddeg Gymdeithasegol

Durkheim a Ffwythiannaeth Strwythurol

Damcaniaethau Straen Cymdeithasol

Ecoleg Gymdeithasol ac Anhrefn Gymdeithasol

Troseddeg Is-ddiwylliannol

Damcaniaeth Rheolaeth Gymdeithasol

Labelu

Troseddeg Feirniadol

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Bydd deall a chloriannu data ymchwil meintiol perthnasol yn elfen bwysig o’r modiwl.
Communication Llafar: Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gymryd rhan mewn trafodaethau seminar. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. (Dim asesiad) Ysgrifenedig: Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu ac asesir eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith da a dadl resymegol.
Improving own Learning and Performance Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol, gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain.
Information Technology Bydd paratoi ar gyfer seminarau, yr aseiniadau a’r arholiad oll yn golygu bod angen defnyddio cronfeydd data’r llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill.
Personal Development and Career planning Gwell gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon.
Problem solving Bydd cymathu ystod o ddamcaniaethau cymhleth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau, a bydd ystod o ymarferion rhyngweithiol yn y darlithoedd, y seminarau a'r aseiniad yn annog meddwl ochrol.
Research skills Datblygir sgiliau ymchwil trwy ddod o hyd i destunau ar wahanol ddamcaniaethau troseddegol a’u dadansoddi’n feirniadol er mwyn llunio a chyflwyno trafodaeth wybodus ar gyfer yr asesiadau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer y seminarau, fel unigolion ac fel grŵp.
Subject Specific Skills Mae’r modiwl hwn yn darparu cyfle i’r myfyrwyr nodi, dadansoddi, cloriannu ac ymarfer cyfres o sgiliau yn ymwneud â deall theori troseddegol.
Team work Bydd gweithio mewn grwpiau bach a seminarau grŵp o fewn y seminarau yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm.

Notes

This module is at CQFW Level 5