Gweithdai Ysgrifennu Creadigol

Module Identifier
CY20420
Module Title
Gweithdai Ysgrifennu Creadigol
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Eurig Salisbury
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Eurig Salisbury
Professor Mererid Hopwood

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cymryd rhan mewn noson lenyddol: Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol. 10%
Semester Assessment Pecyn o dasgau (4 tasg): Pecyn o dasgau creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio o’r gweithdai creadigol;4 tasg 900 gair (600 gair creadigol & 300 gair o sylwebaeth).Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno tasgau nas asesir yn Semester 1 ac yn cael adborth arnynt. 3600 o eiriau 90%
Supplementary Assessment Pecyn o dasgau (4 Tasg): 4 o dasgau creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio o’r gweithdai creadigol: 900 o eiriau yr un (600 gair creadigol; 300 gair o sylwebaeth).Bydd myfyrwyr yn cael adborth hefyd ar dasgau creadigol nas asesir yn Semester 1 3600 o eiriau 90%
Supplementary Assessment Darlleniad creadigol (recordiad): Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol. 10%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol gwreiddiol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) ar bynciau rhagosodedig y gweithdai.
  2. Medru trafod eu gwaith yn feirniadol ac ymateb i adborth, ar papur (sylwebaeth feirniadol) ac ar lafar (yn ystod y gweithdy).
  3. Arddangos sgiliau trefnu a chyflwyno addas ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus, gan gynnwys cyflwyno a darllen eu gwaith i gynulleidfa.
  4. Llunio pedwar darn o waith creadigol gorffenedig, yngnyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arnynt, sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.

Brief description

Bydd gweithdai’r modiwl hwn yn gwneud dau beth: rhoi sylfaen theoretig gadarn i fyfyrwyr ym maes ysgrifennu creadigol a chynnig chyfle iddynt gymhwyso’r theori mewn ymarferion creadigol. Bydd dadansoddi a thrafod cynnyrch yr ymarferion yn rhan annatod o’r broses greadigol a golygyddol.
Mae’r modiwl hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu sylwebaeth feirniadol hunanfyfyriol ar y pecyn creadigol a fydd yn cyd-destunoli’r gwaith trwy amlygu materion theoretig ac thechnegol, a thrwy sylwebu ar y prosesau creadigol goddrychol sydd ar waith.
Gan fod disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at noson lenyddol gyhoeddus, bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.

Aims

Crëwyd y modiwl hwn er mwyn rhoi sylfaen theoretig gadarn i fyfyrwyr ym maes ysgrifennu creadigol a chyfle iddynt gymhwyso’r theori mewn ymarferion creadigol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.

Content

Cynhelir cyfres o seminarau er mwyn cyflwyno a thrafod pob un o’r ffurfiau isod, ynghyd ag ymarfer eu hysgrifennu naill ai’n unigol, mewn parau neu fel grŵp:
1. Barddoniaeth rydd
2. Darnau rhyddiaith byr
3. Y diwydiant Ysgrifennu Creadigol
4. Limrigau a thribannau
5. Llenyddiaeth ecffrastig
6. Llenyddiaeth epistolaidd/hapgael
7. Sgriptio
8. Deialog
9. Llais: cyfansoddi a pherfformio
10. Llunio stori: cynllun, cymeriadau, safbwyntia

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number amherthnasol
Communication Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun theoretig/thematig y gweithdy.
Improving own Learning and Performance Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gyda thiwtor ysgrifennu creadigol; bydd y sylwebaeth feirniadol a lunnir ar gyfer pob tasg yn amlygu effaith y gweithdai trwy esbonio’r datblgyiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig, gan gynnwys rhoi sylw i berfformiad a datblygiad personol.
Information Technology Defnyddir Microsoft Office i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig.
Personal Development and Career planning Gweler rhif 4.
Problem solving Ymateb i heriau technegol yr ymarferion creadigol unigol. Ymateb i feirniadaeth adeiladol.
Research skills Ymchwilio a pharatoi dan o waith creadigol
Subject Specific Skills Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn berthnasol i’r pwnc, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n dymuno gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi creadigol.
Team work Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod y gweithdai.

Notes

This module is at CQFW Level 5