Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg
- Module Identifier
- FG12910
- Module Title
- Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Tony Cook
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
Gofynion mynediad ar gyfer gradd anrhydedd Ffiseg - Exclusive (Any Acad Year)
-
MP12910
- Exclusive (Any Acad Year)
-
PH12910
- Exclusive (Any Acad Year)
-
MT12910
- Other Staff
- Dr Tony Cook
- Professor Simon Cox
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Assessment length |
Proportion |
|---|---|---|---|
| Semester Assessment | Poster Grŵp | 15% | |
| Semester Assessment | Rhaglen Ymwybyddiaeth Sgiliau. Disgwylir i fyfyrwyr wneud 4 ymarfer: 1) Cwblhau modiwl dysgu LinkedIn ar greu proffil ar-lein cryf. 2) Creu proffil LinkedIn. 3) Ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer cais swydd o’u dewis. 4) Cyfrannu at drafodaeth grŵp gyda chynghorydd gyrfaoedd. | 15% | |
| Semester Assessment | Cyflwyniad Unigol | 20% | |
| Semester Assessment | Taenlen | 25% | |
| Semester Assessment | Rhaglennu Gweithdrefnol | 25% | |
| Supplementary Assessment | Rhaglen Ymwybyddiaeth Sgiliau. Disgwylir i fyfyrwyr wneud 4 ymarfer: 1) Cwblhau modiwl dysgu LinkedIn ar greu proffil ar-lein cryf. 2) Creu proffil LinkedIn. 3) Ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer cais swydd o’u dewis. 4) Cyfrannu at drafodaeth grŵp gyda chynghorydd gyrfaoedd. | 15% | |
| Supplementary Assessment | Poster Grŵp | 15% | |
| Supplementary Assessment | Rhaglennu Gweithdrefnol | 25% | |
| Supplementary Assessment | Taenlen | 25% | |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad Unigol | 20% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dadansoddi data gan ddefnyddio taenlen i wneud cyfrifiadau.
- Llunio crynodebau a siartiau o'r data yn y dadansoddiad taenlen.
- Ysgrifennu rhaglen mewn iaith gyfrifiadurol weithdrefnol.
- Cymhwyso pecynnau meddalwedd i baratoi dogfennau i'w cyflwyno i gynulleidfaoedd eang.
- Adnabod gyrfaoedd i Ffisegwyr a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
- Egluro testun mewn Ffiseg drwy gyflwyniad llafar.
- Cydnabod amrywiaeth, moeseg a chynaliadwyedd yn y gwyddorau ffisegol.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i amrywiaeth o becynnau meddalwedd: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyno, taenlenni a rhaglennu gweithdrefnol. Mae'n defnyddio syniadau mewn mathemateg a ffiseg i ddangos defnydd o'r meddalwedd a sgiliau yn y gweithle.
Yn y modiwl mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth o sgiliau fel canllaw ar gyfer paratoi ceisiadau am swyddi. Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn timau i ymchwilio gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg (rhoddir enghreifftiau o yrfaoedd gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol) a defnyddio'r meddalwedd a gyflwynwyd i baratoi poster ar eu canfyddiadau. Mae myfyrwyr hefyd yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad unigol byr ar destun mewn Ffiseg.
Content
Pecynnau prosesu geiriau (fel Word, Latex): cyflwyniad, dogfennau, fformatio, mynegiadau mathemategol, a chyfeiriadau llyfryddol.
Taenlenni (fel Excel): trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin, delweddu set ddata (mawr).
Rhaglennu gweithdrefnol.
Pecynnau cyflwyno (megis Powerpoint): ar gyfer posteri ac ar gyfer cyflwyniadau llafar unigol.
Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn dangos sut i baratoi dogfennau megis llythyr cyflwyno.
Poster grŵp i dynnu sylw at yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg (rhoddir enghreifftiau o yrfaoedd gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol) a'r sgiliau a ddatblygir ar gyfer y rhain.
Cyflwyniad unigol ar destun mewn Ffiseg.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Defnyddir cysyniadau a thechnegau rhifyddol gyda thaenlen. |
| Communication | Cyfathrebu ysgrifenedig yn yr aseiniadau. Cyfathrebu llafar yn y cyflwyniadau. |
| Improving own Learning and Performance | Caiff ei annog drwy gydol y modiwl yma sy'n datblygu sgiliau. |
| Information Technology | Mae amrywiaeth o becynnau cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio yn y modiwl. |
| Personal Development and Career planning | Mae'r modiwl yn dangos pwysigrwydd datblygiad personol a cynllunio gyrfa ac mae'n cynnwys ymarferion ymwybyddiaeth sgiliau. |
| Problem solving | Caiff sgiliau datrys problemau eu cymhwyso yn yr aseiniadau taenlen a rhaglennu gweithdrefnol ac yn y cyflwyniad ar destun mewn Ffiseg. |
| Reflection | Moeseg. Arferion da mewn: Gwyddoniaeth, Addysg a'r Gweithle. |
| Research skills | Caiff sgiliau ymchwil eu defnyddio i ymchwilio testun mewn Ffiseg a gyrfaoedd mewn Ffiseg. |
| Subject Specific Skills | Rhaglennu gweithdrefnol. Datrys problemau mewn ffiseg ar gyfer y cyflwyniad unigol. |
| Team work | Mae'r aseiniad poster yn weithgaredd grŵp. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
