Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry

Module Identifier
HC32320
Module Title
Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Steve Thompson
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
HC22320
Other Staff
Dr Yi Li

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd ysgrifenedig 1: 2000 o eiriau 50%
Semester Assessment Arholiad agored: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd ysgrifenedig 1: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Arholiad agored: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos dealltwriaeth sylweddol o hanes y Rhyfel Mawr a’i effeithiau ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru.
  2. Dangos dealltwriaeth o’r materion ynglŷn â methodoleg a godir gan y defnydd o ffynonellau amrywiol, megis papurau newydd, hunangofiannau a hanes llafar, i astudio’r gorffennol.
  3. Astudio a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol yn feirniadol, gan gynnwys ffynonellau printiedig, clywedol a gweledol.
  4. Creu a chynnal dadleuon hanesyddol yn llafar (ddim yn asesiedig) ac ysgrifenedig (yn asesiedig).

Brief description

Nid oes dadlau mai’r Rhyfel Mawr oedd un o drobwyntiau mawr hanes Cymru. Yn sgil y rhyfel fe ddaeth effeithiau pellgyrhaeddol y rhyfel ar Gymru, a’i thrigolion, yn nhermau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn ogystal â’r gost dynol a drawodd gymunedau a theuluoedd Cymreig. Fe newidiodd y darlun wrth i’r ymladd barhau a ffyrnigo, a’r aberth ddod yn fwyfwy poenus. Ymddengys bod y rhan fwyaf o’r Cymry yn derbyn y ddadl mai ‘rhyfel cyfiawn’ oedd hwn yn ystod y brwydro, ond dros y blynyddoedd canlynol fe ddaeth tro ar fyd, a dadrithio nid yn unig gyda’r modd yr ymladdwyd y rhyfel, ond gydag achos Prydain yn ei gyfanrwydd.


Bydd 'Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry' yn cynnig arolwg eang o ddylanwad y Rhyfel Mawr ar bobl Cymru, ac ar ddiwylliant Cymreig a Chymraeg. Ni fydd yr astudiaeth yn cyfyngu ei hunan i ddigwyddiadau 1914-18, ond yn hytrach bydd yn trafod y cyfnod o ddechrau’r 20fed Ganrif i'r presennol. Byddwn yn ystyried tystiolaeth o nifer o ffynonellau amrywiol er mwyn ceisio deall effaith yr ymladd ar feddylfryd y Cymry ar y pryd, ac yn y degawdau ers y cadoediad. Defnyddiwn ysgrifau milwyr cyffredin a’u teuluoedd yn ogystal â datganiadau gwleidyddion a newyddiadurwyr; astudiwn farddoniaeth a chynnyrch artistiaid ac fe glywn leisau’r cyn-filwyr mewn cyfweliadau a wnaethpwyd degawdau wedi’r brwydro. Wrth astudio sut mae'r rhyfel wedi cael ei bortreadu a'i gofio yn y Gymraeg byddwn yn dadansoddi sut mae’r newidiadau yn y coffáu yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol yng Nghymru

Content

Un darlith ac un seminar pob wythnos:

(Wythnos 1) Cyflwyniad

(Wythnos 2) Arwain at y rhyfel

(Wythnos 3) Awst 1914 i Ragfyr 1915

(Wythnos 4) Ymladd

(Wythnos 5) Hyd at 1918

(Wythnos 6) Ennill y Rhyfel; colli’r heddwch

(Wythnos 7) Yn sgil y Dadrithio: Y Llewod a’r Asynnod;

(Wythnos 8) Cyfnod yr Ail Ryfel Byd

(Wythnos 9) Atgofion hen wŷr

(Wythnos 10) Hanes Diwylliannol y Rhyfel

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitro cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu yn ôl y galw, er mwyn gwella perfformiad cyffredinol.
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio’r we yn briodol ac yn effeithiol.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyd-destun dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Problem solving Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd greadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Subject Specific Skills Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud â Rhyfel Cartref America.
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.

Notes

This module is at CQFW Level 6