Lleoliad Proffesiynol Troseddeg

Module Identifier
CT30440
Module Title
Lleoliad Proffesiynol Troseddeg
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Miss Demi John
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
CT12220 or CT22220 or LC12220 or LC22220
Exclusive (Any Acad Year)
LC30440
Exclusive (Any Acad Year)
CD31020 or DG31020
Exclusive (Any Acad Year)
CT22520 or LC22520
Exclusive (Any Acad Year)
CT33340 or CT35040 or LC33340 or LC35040
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cais am leoliad: Sicrhau lleoliad addas at ddibenion cwblhau'r modiwl 500 o eiriau 10%
Semester Assessment Portffolio Lleoliad: Mwyafswm 4,000 o eiriau + tystiolaeth e.e. llawlyfrau hyfforddi, taflenni amser, canllawiau asiantaeth ac ati) yn cynnwys sylwebaeth adfyfyriol sy'n tynnu ar y cysylltiadau a arsylwyd rhwng y dystiolaeth a'r arfer. 50%
Semester Assessment Adolygiad Proffesiynol: Adolygiad professiynol gan sefydliad lleoliad 1000 o eiriau 20%
Semester Assessment Cyflwyniad: Cyflwyniad llafar neu poster yn cynhadledd myfyrwyr 10 Munud 20%
Supplementary Assessment Cyflwyniad poster: Cyflwyniad poster gyda crynodeb ysgrifennedig 1,500 o eiriau 10 Munud 20%
Supplementary Assessment Cais am leoliad: Sicrhau lleoliad addas at ddibenion cwblhau'r modiwl 500 o eiriau 10%
Supplementary Assessment Portffolio Lleoliad: Mwyafswm 4,000 o eiriau + tystiolaeth e.e. llawlyfrau hyfforddi, taflenni amser, canllawiau asiantaeth ac ati) yn cynnwys sylwebaeth adfyfyriol sy'n tynnu ar y cysylltiadau a arsylwyd rhwng y dystiolaeth a'r arfer. 50%
Supplementary Assessment Adolygiad proffesiynol: Adolygiad proffesiynol gan sefydliad lleoliad 1000 o eiriau 20%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Sicrhau a chynnal lleoliad gwaith am gyfnod gofynnol (isafswm o 10 diwrnod / 75 awr)
  2. Dangos dealltwriaeth gymhwysol o gysyniadau a damcaniaethau troseddeg mewn amgylchedd proffesiynol
  3. Gwerthuso'n feirniadol rôl, swyddogaeth a chyd-destun gweithredol y sefydliad lleoliad
  4. Cymhwyso egwyddorion moesegol priodol, cyfrinachedd a chynnal ymddygiad proffesiynol yn unol â disgwyliadau'r sefydliad
  5. Dangos sgiliau cyflogadwyedd datblygedig, gan gynnwys cyfathrebu, datrys problemau, gwaith tîm a hunanreolaeth
  6. Cynhyrchu gwaith asesedig myfyriol ac analiticaidd sy'n integreiddio llenyddiaeth academaidd gyda phrofiad y lleoliad

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gymhwyso gwybodaeth droseddegol, sgiliau ymchwil a safbwyntiau damcaniaethol mewn lleoliad proffesiynol. Trwy leoliad sylweddol yn y gweithle (neu sawl lleoliad llai) gyda sefydliadau perthnasol - megis yr heddlu neu unedau atal trosedd, gwasanaethau prawf neu wasanaethau cefnogi ailsefydlu, asiantaethau cymorth i ddioddefwyr, NGOau/elusennau sy'n gweithio gyda throseddwyr, dioddefwyr neu grwpiau agored i niwed, timau ymchwil academaidd neu gymhwysol neu bartneriaethau diogelwch cymunedol - bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol, yn gwella cyflogadwyedd ac yn myfyrio'n feirniadol ar y berthynas rhwng damcaniaeth a gweithredu troseddegol. Ar ôl hyfforddiant, disgwylir iddynt gyflawni o leiaf nifer penodol o oriau mewn gwaith gwirfoddol neu waith â thâl. Rhaid i'r lleoliad(au) gael eu cymeradwyo gan gydlynydd y modiwl cyn dechrau. Rhaid i fyfyrwyr gael goruchwyliwr penodol / pwynt cyswllt yn y sefydliad. Anogir myfyrwyr hefyd i ymgysylltu uniongyrchol â'r sector cyfiawnder troseddol mewn ffyrdd eraill (e.e. cynadleddau, ymweliadau safle a chyfleoedd cysgodi).

Content

Gwaith Paratoi Cyn Lleoliad:

Cyflwyniad i waith asiantaethau cyfiawnder troseddol
Cyflwyniad i waith maes a'i beryglon
Ymarfer myfyriol
Ymddygiad proffesiynol yn gweithle
Hyfforddiant sgiliau cyflwynol a gynigir gan sefydliadau
Profiad lleoliad
Adolygu a chyfarwyddyd ar ymarfer myfyriol

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Sicrhau lleoliad gwaith ac ymweithio mewn amgylchedd proffesiynol fydd yn heriol ac yn gofyn i fyfyrwyr fod yn hyblyg ac yn amyneddgar yn eu dulliau gweithredu
Co-ordinating with others Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn dibynnu ar waith tim felly bydd y modiwl yn hanfodol yn gwella sgiliau gweithio fel tim
Creative Problem Solving Yn ystod eu lleoliad bydd angen iddynt ddatrys llawer o faterion ymarferol, a fydd yn datblygu ac yn gwella sgiliau myfyrwyr mewn datrys problemau beirniadol ac ymarferol.
Digital capability Bydd chwiliadau mewn cronfeydd data electronig ar-lein a chylchgronau yn darparu ymarfer mewn sgiliau TG. Yn dibynnu ar eu lleoliadau, mae disgwyl i'r myfyrwyr hefyd ddod ar draws systemau casglu cronfeydd data newydd ar gyfer gwybodaeth cleientiaid.
Professional communication Bydd cyfathrebu llafar yn cael ei annog a'i ddatblygu yn ystod trafodaethau seminar rhyngweithiol ac yn eu rhyngweithiadau â chydweithwyr a/neu gleientiaid yn ystod eu lleoliad gwaith, ac yn cael ei asesu yn y Gynhadledd Myfyrwyr. Bydd sgiliau ysgrifenedig yn cael eu datblygu a'u hasesu drwy'r portffolio adfyfyriol.
Real world sense Bydd y lleoliad yn galluogi myfyrwyr i brofi rhai o'u dysgu troseddegol mewn cyd-destun cymhwysol
Subject Specific Skills Bydd datblygiad sgiliau penodol i'r pwnc yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr, ond bydd cynnwys a lled y sgiliau hyn yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad.

Notes

This module is at CQFW Level 6