Datrys Problemau ac Ymgynghori mewn Troseddeg
- Module Identifier
- CT33300
- Module Title
- Datrys Problemau ac Ymgynghori mewn Troseddeg
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Miss Demi John
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
CT12220 or CT22220 or LC12220 or LC22220
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CT22520 or LC22520
- Exclusive (Any Acad Year)
-
LC33340
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CT30440 or CT35040 or LC30440 or LC35040
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Cais i'r Grŵp Ymghynori: Cais i sicrhau lle mewn grŵp ymgynhori (unigol). 300 o eiriau | 10% |
| Semester Assessment | Adolygiad Llenyddol grŵp: 3000 o eiriau | 20% |
| Semester Assessment | Adroddiad Grŵp: Adroddiad ysgrifennedig sy'n crynhoi'r materion yn fyr ac yn cynnig atebion realistig (gradd grŵp). 1000 o eiriau | 10% |
| Semester Assessment | Gweithgaredd Darlledu Grŵp: Cyfathrebu canfyddiadau mewn modd hygyrch i gynulleidfa ddi-arbenigedd. 2000 o eiriau | 25% |
| Semester Assessment | Log Adlewyrchol: Log myfyrio unigol o gyfarfodydd. 2000 o eiriau | 20% |
| Semester Assessment | Cyflwyniad Llafar Grŵp: Cyflwyniad llafar grŵp yn y gynhadledd myfyrwyr 15 Munud | 15% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad Poster: Cyflwyniad poster unigol gyda crynodeb ysgrifenedig o 1500 i grynhoi'r cyflwyniad. 2500 o eiriau | 15% |
| Supplementary Assessment | Cais i'r Grŵp Ymgynghori: Cais i sicrhau lle mewn grŵp ymgynhori (unigol). 300 o eiriau | 10% |
| Supplementary Assessment | Log Adlewyrchol: Log adlewyrchol unigol o gyfarfodydd. 2000 o eiriau | 20% |
| Supplementary Assessment | Adolygiad Llenyddol: Adolygiad llenyddol grŵp 1000 o eiriau | 20% |
| Supplementary Assessment | Gweithgaredd Darlledu: Cyfathrebu canfyddiadau mewn modd hygyrch i gynulleidfa ddi-arbenigol. 1000 o eiriau | 25% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad: Adroddiad ysgrifennedig sy'n crybwyll yn gryno'r materion a'r atebion realistig a gynigir. 1000 o eiriau | 10% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Cwblhau cais i grŵp ymgynghori, gan gynhyrchu crynodeb proffesiynol sy'n nodi eich prif gryfderau a gwendidau ar gyfer y rôl.
- Dadansoddi'n feirniadol problem droseddegol byd go iawn gan ddefnyddio damcaniaeth berthnasol, ymchwil, polisi a chyd-destunau sy'n seiliedig ar ymarfer.
- Datblygu sgiliau ymgynghori gan gynnwys diffinio problemau, ymholiad ymchwil a rhesymu dadansoddol i lywio datrys problemau.
- Gweithio'n effeithiol mewn tim i ymchwilio, cynllunio, dylunio a chynnal prosiect ymgynghori bach.
- Cynhyrchu ac ynni'n arloesol argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymarfer a pholisi, a'u cyfathrebu'n effeithiol.
- Meithrin ymwybyddiaeth adfyfyriol a moesegol mewn gwaith troseddegol cymhwysol.
- Syntheseiddio llenyddiaeth academaidd ac arall sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'r prosiect ymchwil a chyflwyno'r canfyddiadau i gynulleidfa.
- Gweithio'n llwyddiannus gyda rheolwr penodedig a dangos sgiliau rheoli prosiect effeithiol, hunan-gyfeiriad a datrys problemau drwy gydol y prosiect.
Brief description
Fel dewis arall yn lle modiwl traethawd hir, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiect mawr gan weithredu fel ymgynghorwyr ar broblem droseddegol go iawn. Gan weithio mewn grwpiau bach ochr yn ochr ag aelod o staff (neu glwstwr ymchwil), bydd myfyrwyr yn ceisio goresgyn mater penodol sy’n ymwneud ag ardal benodol o droseddeg (e.e., cyfiawnder ieuenctid, camgymeriadau cyfiawnder, plismona, cam-drin domestig, cyn-filwyr, troseddau torfol, troseddeg werdd, troseddau treftadaeth ac ati).
Mae’r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddangos arferion gwaith cydweithredol, sgiliau ymchwil, datrys problemau a chyflwyno canfyddiadau drwy ddulliau anghonfensiynol (e.e., gweledol, clywedol, artistig ac ati). Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr nad ydynt yn sicr am bwnc ymchwil annibynnol, ond sydd yn awyddus i ddatblygu profiadau trosglwyddadwy allweddol sy’n gysylltiedig â hynny, i ymgolli mewn pwnc ymchwil troseddegol penodol.
Content
Bydd myfyrwyr yn cael eu harwain drwy fenter datrys problem gan oruchwyliwr (neu oruchwylwyr) sydd wedi enwebu maes ymchwilio penodol cyn dechrau pob blwyddyn academaidd. Gan weithio’n gydweithredol o fewn pob clwstwr, bydd angen i fyfyrwyr gasglu a dadansoddi tystiolaeth, cynhyrchu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a chynhyrchu adroddiad ymgynghori proffesiynol a chyflwyniad ar broblem droseddegol benodol fel y nodwyd. Mae’r modiwl yn cyfuno damcaniaeth droseddegol, ymchwil gymhwysol a datrys problemau byd go iawn. Ei nod yw datblygu sgiliau dadansoddi ymarferol, gweithio mewn partneriaeth a chyfathrebu proffesiynol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd ym maes cyfiawnder troseddol, diogelwch cymunedol, polisi ac ymchwil gymdeithasol gymhwysol.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Bydd angen i fyfyrwyr addasu eu dull yn ôl eu hymchwil ar broblemau go iawn ac greu deunyddiau lledaenu a fydd yn apelio at gynulleidfa eang. |
| Co-ordinating with others | Mae'r prosiect hwn yn gofyn i bob aelod o'r tim ymgynghori weithio'n agos gyda'i gilydd, cyfarfod yn rheolaidd a rhannu tasgau rhyngddynt. |
| Creative Problem Solving | Disgwylir i fyfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth troseddol i broblem o'r byd go iawn er mwyn creu datrysiadau posibl. |
| Critical and analytical thinking | Bydd disgyblion angen ysgrifennu adolygiad beirniadol o lenyddiaeth a rhagweld anawsterau bywyd go iawn sy'n ymwneud a'r problemau/atebion a gynigir. |
| Digital capability | Disgwylir i fyfyrwyr greu portffolio digidol o'r gwaith, gan gynnwys deunyddiau lledaenu wedi'u cynllunio'n ddigidol. Bydd hefyd yn ofynnol iddynt gyflwyno gan ddefnyddio meddalwedd cyflwyniadau yn y gynhadledd flynyddol i fyfyrwyr. |
| Professional communication | Bydd yn ofynnol i ddisgyblion cynhyrchu adroddiadau addas ar gyfer eu dosbarthu'n broffesiynol yn y maes, a ystod o ddeunyddiau dosbarthu i addasu i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd gan gynnwys Llywodraeth a phobl sy'n gwneud polisiau, ymarferwyr, unigolion (gan gynnwys plant, os yw'n berthnasol) a'r cyhoedd ehangach. |
| Real world sense | Bydd angen i'r prosiect cyfan gael ei leoli'n amlwg o fewn sefyllfaoedd byd go iawn ac wrth fynd i'r afael a'r materion byd go iawn a ganfuwyd drwy broses y cynghorydd. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
