Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg

Module Identifier
CT35040
Module Title
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Miss Demi John
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
CT30440 or CT33340 or CT39020 or LC30440 or LC33340 or LC39020
Exclusive (Any Acad Year)
LC35040
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd estynedig: 8000-10,000 o eiriau ar gyfer y prosiect ymchwil ysgrifenedig. 60%
Semester Assessment Cyflwyniad: Cyflwyniad (llafar neu boster) yng Nghynhadledd y Myfyrwyr 10 Munud 20%
Semester Assessment Adroddiad Adfyfyriol: Crynodeb adfyfyriol o gyfarfodydd goruchwylio, gan gynnwys pwyntiau gweithredu. O leiaf 4 x 200 gair. 1000 o eiriau 10%
Semester Assessment Cais am gymeradwyaeth foesegol: 1000 o eiriau 10%
Supplementary Assessment Cyflwyniad poster: Cyflwyniad Poster gyda chrynodeb o 1,500 o eiriau 3000 o eiriau 20%
Supplementary Assessment Cais am gymeradwyaeth foesegol: 1000 o eiriau 10%
Supplementary Assessment Traethawd estynedig: Prosiect ymchwil ysgrifenedig 8000 - 10000 o eiriau. Dylai'r myfyriwr ailysgrifennu'r traethawd hir (ar yr un thema) gan ddefnyddio'r adborth a ddarparwyd gan y marciwr yn y cyflwyniad gwreiddiol. Disgresiwn y goruchwyliwr ynghylch a ddylid rhoi goruchwyliaeth ychwanegol. 60%
Supplementary Assessment Adroddiad Adfyfyriol: Crynodeb adfyfyriol o gyfarfodydd goruchwylio, gan gynnwys pwyntiau gweithredu. O leiaf 4 x 200 gair. 1000 o eiriau 10%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Cyflwyno, lleoli a gwerthuso cwestiwn ymchwil troseddegol/cyfreithiol yn feirniadol, mewn perthynas â'r llenyddiaeth ymchwil ehangach, y gellir ei brofi trwy brosiect ymchwil estynedig
  2. Cymhwyso a chynnal methodoleg/methodolegau ymchwil priodol i ymgymryd ag ymchwil ar gwestiwn(au) ymchwil penodol
  3. Dangos ymwybyddiaeth o egwyddorion moesegol proffesiynol a fframweithiau moesegol sefydliadol sy'n briodol i'r gwyddorau cymdeithasol a'r dyluniad ymchwil a fwriadwyd
  4. Cymhwyso llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth arall sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'r prosiect ymchwil a chyflwyno'r canfyddiadau i gynulleidfa
  5. Dangos y gallu i gasglu, dehongli a gwerthuso data a dod i gasgliadau yn seiliedig ar y canfyddiadau a'u gosod yng nghyd-destun ehangach materion cyfreithiol, damcaniaethol, polisïol ac ymarferol y gwyddorau cymdeithasol
  6. Cynhyrchu traethawd estynedig sydd wedi'i strwythuro'n dda, yn gydlynol ac yn wreiddiol, gan ddangos dadansoddiad beirniadol a thrylwyredd academaidd.
  7. Gweithio'n llwyddiannus gyda goruchwyliwr penodedig a dangos sgiliau rheoli prosiectau, hunangyfeirio a datrys problemau annibynnol effeithiol drwy gydol y broses ymchwil.

Brief description

Mae’r modiwl Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg yn fodiwl annibynnol, sy'n canolbwyntio ar ymchwil, mater i’r myfyriwr yw dylunio, cynllunio, cynnal a chyflwyno astudiaeth wreiddiol ar bwnc dewisol sy'n berthnasol i'w maes astudio. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu rhagdybiaethau neu gwestiwn(au) ymchwil addas, cydymffurfio ag egwyddorion moesegol y Brifysgol, adolygu llenyddiaeth bresennol, cymhwyso dulliau ymchwil priodol, dadansoddi canfyddiadau a chynhyrchu traethawd hir ysgrifenedig sylweddol o dan oruchwyliaeth academaidd. Disgwylir hefyd i fyfyrwyr gyflwyno eu prif ganfyddiadau yng nghynhadledd myfyrwyr yr Adran.

Content

Mater i’r myfyriwr yw dewis pwnc ar gyfer ymchwil fanwl gyda chymeradwyaeth a chefnogaeth yr oruchwyliwr.
Wrth ymgymryd ag yr ymchwiliad manwl ar bwnc troseddegol/ cyfreithiol, bydd sesiynau dysgu ar gael i gefnogi'r myfyriwr i ymgymryd ag astudiaeth ymchwil fanwl ac i gefnogi myfyrwyr i gwblhau'r asesiad yn llwyddiannus.
Darperir cefnogaeth benodol i'r pwnc drwy'r broses oruchwylio mewn tiwtorialau unigol.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo sgiliau datrys problemau a rheoli amser. Bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth gan eu goruchwyliwr ond yn y bôn byddant yn gweithio'n annibynnol wrth ddylunio, ymchwilio, cynllunio ac ysgrifennu'r traethawd estynedig
Co-ordinating with others Bydd angen i fyfyrwyr weithio'n llwyddiannus gyda goruchwyliwr penodedig er mwyn cyflawni nod cyffredin.
Critical and analytical thinking Bydd y traethawd estynedig yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn ddadansoddol ac yn feirniadol am eu maes ymchwil penodol.
Digital capability Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith ar ffurf prosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â cheisio chwilio am ffynonellau trwy gronfeydd data electronig (megis Web of Science a Primo). Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio nifer o becynnau meddalwedd yn ystod y modiwl gan gynnwys Excel, PowerPoint ac SPSS ar gyfer Windows.
Professional communication Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar ffurf eu traethodau estynedig a bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu hasesu trwy gyflwyniadau. Disgwylir iddynt hefyd gyfathrebu a gweithio gyda'u goruchwyliwr mewn modd proffesiynol.
Subject Specific Skills Y prosiect yw uchafbwynt dysgu myfyrwyr mewn cyfraith a/neu droseddeg, sydd wedi datblygu drwy gydol y cynllun gradd.. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o agweddau a chysyniadau allweddol eu disgyblaeth. Bydd gwerthfawrogiad o natur ymchwil foesegol yn y gyfraith a/neu'r gwyddorau cymdeithasol hefyd yn cael ei archwilio.

Notes

This module is at CQFW Level 6