Cymraeg Ddoe a Heddiw: cyflwyniad i ieithyddiaeth

Module Identifier
CY22320
Module Title
Cymraeg Ddoe a Heddiw: cyflwyniad i ieithyddiaeth
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Simon Rodway
Reading List
View on Aspire
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Prosiect: Gosodir prosiect sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddadansoddi eu tafodiaith/idiolect eu hunain, gan roi sylw i gyweiriau iaith a’r ffactorau amrywiol sy’n dylanwadu ar ein dull o ddefnyddio iaith. 3000 o eiriau 60%
Semester Exam Arholiad: Arholiad ar agweddau Cymraeg Ddoe y modiwl 2000 o eiriau 40%
Supplementary Assessment Arholiad: Arholiad ar agweddau 'Cymraeg Ddoe' y modiwl 2000 o eiriau 60%
Supplementary Assessment Prosiect: Prosiect ar agweddau 'Cymraeg Heddiw' y modiwl 3000 o eiriau 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos dealltwriaeth o hanfodion y prif ddulliau o astudio iaith, gan gynnwys tafodieitheg, ieitheg hanesyddol a chymdeithaseg iaith.
  2. Dangos dealltwriaeth o ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r famiaith Geltaidd, ei pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd ac Indo-Ewropeaidd eraill, Hen Gymraeg, Cymraeg Canol, a’r heriau mae’r Gymraeg yn ei hwynebu yn y cyfnod diweddar.
  3. Dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol tafodieitheg prif nodweddion tafodieithoedd y Gymraeg, ffactorau sy’n ymwneud â chymdeithaseg iaith sy’n effeithio ar hynt tafodieithoedd y Gymraeg.
  4. Dangos dealltwriaeth o’r heriau y mae’r Gymraeg yn ei hwynebu mewn perthynas â’r tafodieithoedd, enwau lleoedd, newidiadau demograffaidd, dylanwad y cyfryngau torfol a’r cyfryngau cymdeithasol.

Brief description

Cwrs dewisol i fyfyrwyr y ffrwd ail iaith sy’n cyflwyno myfyrwyr i hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, ynghyd ag egwyddorion sylfaenol ieithyddiaeth, sef tafodieitheg, a chymdeithaseg iaith.

Aims

https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/dev-review//

Content

Cwrs sy’n cyflwyno myfyrwyr i hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, ynghyd ag egwyddorion sylfaenol tafodieitheg, a chymdeithaseg iaith. Ystyrir hefyd yr heriau y mae’r Gymraeg yn ei hwynebu. Bydd rhai sesiynau ar y tafodieithoedd ac enwau lleoedd yn cymryd ffurf Gweithdy.
https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/dev-review//
Cymraeg Heddiw (un awr yr wythnos)
• Tafodieitheg a chymdeithaseg iaith: geirfa a phrif gysyniadau’r maes; astudiaeth o ddetholiad o dafodieithoedd; Cymraeg2050 ac adfywio'r Gymraeg.

Cymraeg Ddoe (un awr yr wythnos)
• Ieithyddiaeth: diffinio’r maes a geirfa’r maes
• Yr ieithoedd Celtaidd; Y Frythoneg; dylanwad Lladin
• Datblygiad yr iaith c. 400 800
• Hen Gymraeg
• Cymraeg Canol: rhagymadrodd
• Cymraeg Canol: dylanwad Saesneg a Ffrangeg
• Tafodieithoedd yn yr Oesoedd Canol
• Syniadau canoloesol am yr iaith
• Syniadau’r cyfnod modern cynnar am yr iaith

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Amherthnasol
Communication Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniad ysgrifenedig.
Improving own Learning and Performance Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith.
Information Technology At ddibenion ymchwil (prosiect a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.
Personal Development and Career planning Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Problem solving Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r pynciau a’r egwyddorion a drafodir.
Research skills Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (prosiectau) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Subject Specific Skills Trwy feithrin gallu myfyrwyr i deall a dadansoddi tafodieithoedd, enwau lleoledd, a ffurfiau hanesyddol ar yr yr iaith Gymraeg.
Team work Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y pynciau a chysyniadau allweddol y modiwl.

Notes

This module is at CQFW Level 5