Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu

Module Identifier
CY22420
Module Title
Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Rhianedd Jewell
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
CY32420
Other Staff
Dr Cathryn Charnell-White
Professor Mererid Hopwood
Ms Elizabeth Morse
Dr Rhianedd Jewell

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Tasgau cyfieithu: Pedair tasg gyfieithu (a'r tair tasg orau i'w hasesu) 1500 o eiriau 30%
Semester Assessment Prawf Cyfieithu: 1 Hours yn y dosbarth ar gyfrifiadur 1 Awr 30%
Semester Assessment Traethawd: 1500 o eiriau 40%
Supplementary Assessment Prawf Cyfieithu: 1 Hours yn y dosbarth ar gyfrifiadur 1 Awr 30%
Supplementary Assessment Tasgau cyfieithu: Hyd at bedair tasg gyfieithu 1500 o eiriau 30%
Supplementary Assessment Traethawd: 1500 o eiriau 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Cyfieithu testunau proffesiynol eu natur i’r Gymraeg.
  2. Gwneud defnydd o adnoddau iaith ar-lein a rhaglenni cyfieithu peirianyddol yn effeithiol.
  3. Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg wrth gyfieithu.
  4. Dadansoddi heriau’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru.
  5. Dangos dealltwriaeth o hanfodion gwahanol fathau ar gyfieithu gan gynnwys cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn dysgu sgiliau cyfieithu proffesiynol ac yn rhoi cyflwyniad i heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu. Yn sgil y galw cynyddol am sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd ar draws Cymru, mae natur y sector cyfieithu yn esblygu. Bydd darlithoedd y modiwl yn trafod datblygiad y sector cyfieithu yng Nghymru, gofynion y diwydiant, swyddogaeth a heriau cyfieithu ar y pryd a datblygiadau technegol yn y maes megis cyfieithu peirianyddol a chofau cyfieithu. Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle ichi ymarfer sgiliau cyfieithu, golygu a phrawf-ddarllen a dysgu am yr adnoddau ieithyddol sydd ar gael i gynorthwyo’r gwaith.

Aims

Amcan y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i sgiliau cyfieithu proffesiynol drwy ddefnydd o dechnoleg cyfieithu a dysgu dealltwriaeth o ofynion a heriau'r sector cyfieithu.

Content

Bydd 10 darlith yn cyflwyno gwahanol agweddau ar y diwydiant cyfieithu, egwyddorion cyfieithu a gwaith cyfieithwyr proffesiynol. Trafodir pynciau megis:
Datblygiad cyfieithu yng Nghymru
Hanfodion cyfieithu proffesiynol
Cyfieithu yng ngweithleoedd Cymru
Cyfieithu peirianyddol
Cofau cyfieithu
Cyfieithu ar y pryd

Bydd gweithdai’r modiwl yn rhoi cyfle ichi ymarfer cyfieithu ar bapur ac ar gyfrifiadur ac ymarfer eich sgiliau golygu a phrawf-ddarllen. Cewch chi ddysgu am yr adnoddau iaith a ddefnyddir gan gyfieithwyr a gwneud defnydd ohonynt wrth ymarfer. Bydd cyfle yn y gweithdai hefyd i dderbyn adborth adeiladol ar eich gwaith cyfieithu.

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others Bydd cyfle i weithio mewn grwpiau wrth lunio cyfieithiadau mewn rhai gweithdai.
Creative Problem Solving Un o hanfodion y modiwl yw datblygu sgiliau cyfieithu sy’n galw am waith dadansoddi wrth drosi testun i iaith arall. Bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirfa, cystrawen, cywair a mynegiant.
Critical and analytical thinking Datblygir sgiliau dadansoddi wrth drafod heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu ac egwyddorion cyfieithu.
Digital capability Datblygir dealltwriaeth o gyfieithu peirianyddol, cofau cyfieithu ac adnoddau iaith ar-lein megis geiriaduron a phyrth termau. Anogir y myfyrwyr hefyd i wneud defnydd o’r Bwrdd Du.
Professional communication Datblygir sgiliau cyfathrebu proffesiynol yn y Gymraeg ar ffurf cyfieithiadau ysgrifenedig a thraethawd.
Real world sense Datblygir dealltwriaeth o ofynion a heriau’r diwydiant cyfieithu proffesiynol.
Reflection Datblygir gallu’r myfyrwyr i wella eu dysgu a’u perfformiad drwy’r tasgau cyfieithu rheolaidd. Dysgir sgiliau golygu a phrawf-ddarllen sy’n cynorthwyo myfyrwyr i wella’u gwaith cyfieithu eu hunain.

Notes

This module is at CQFW Level 5