Y Gynghanedd: Cwrs Trochi

Module Identifier
CY24520
Module Title
Y Gynghanedd: Cwrs Trochi
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Eurig Salisbury
Reading List
View on Aspire
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Tasgau gweithdai 1–6: 600 o eiriau 24%
Semester Assessment Tasgau ar gyfer seminarau 7, 8, 9 a 10: , lle gofynnir i’r myfyrwyr ddod o hyd i enghreifftiau o wahanol gynganeddion mewn cerdd briodol (er enghraifft, cerdd gan Ddafydd ap Gwilym). Gofynnir i’r myfyrwyr gyflwyno’r gwaith ar lafar ar ddechrau’r seminar. Os nad yw hyn yn ymarferol bosib oherwydd niferoedd, cynhelir sesiwn holi ac ateb yn seiliedig ar yr un dasg lle disgwylir i bob myfyriwr gyfrannu. 800 o eiriau 36%
Semester Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 40%
Supplementary Assessment Tasgau ar gyfer seminarau 7, 8, 9 a 10: 800 o eiriau 36%
Supplementary Assessment Tasgau gweithdai 1–6: 600 o eiriau 24%
Supplementary Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Adnabod a dadansoddi’r prif fathau o gynghanedd;
  2. Llunio cynganeddion cytsain syml;
  3. Deall o’r newydd rai egwyddorion ieithyddol sylfaenol ynghylch yr iaith Gymraeg, megis cyseinedd, sillafau, acennu, odli;
  4. Adnabod a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd mewn gwahanol gyfnodau yn hanes y grefft, o’r cynfeirdd i’r beirdd mwyaf diweddar;
  5. Adnabod a deall sut y datblygodd y gynghanedd o gyfnod i gyfnod yn hanes y grefft;
  6. Deall datblygiadau ymarferol a theoretig diweddar ym maes y gynghanedd.

Brief description

Ystyrir y gynghanedd yn grefft gwbl unigryw i’r iaith Gymraeg ac yn drysor diwylliannol. I’r rheini sydd wedi bod â diddordeb yn y grefft ers tro, ond heb gael cyfle i fynd i’r afael â hi, bydd y cwrs hwn yn eu rhoi ar ben ffordd. I’r rheini sy’n credu mai crefft i feirdd yn unig yw’r gynghanedd, bydd y cwrs hwn yn eu hannog i ailfeddwl. Nid yw popeth a ysgrifennir mewn cynghanedd yn farddoniaeth, ac mae’r sgiliau a ddysgir fel rhan o’r cwrs yn werthfawr i unrhyw un sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno egwyddorion theoretig ac ymarferol y grefft o gynganeddu. Yn y bôn, crefft yw’r gynghanedd sy’n galluogi i’r sawl sy’n ei hymarfer adnabod geiriau a gramadeg mewn modd trylwyr iawn. Beth bynnag a ysgrifennir, o gerdd i nofel i draethawd i ddarn cyfieithu, gall dealltwriaeth o’r gynghanedd gyfoethogi defnydd yr awdur o’r iaith Gymraeg. Yn ogystal â’r gwaith ymarferol o lunio cynganeddion, bydd y cwrs yn olrhain twf a datblygiad hanesyddol y gynghanedd ar hyd y canrifoedd, o Aneirin i Twm o’r Nant a Goronwy Owen (a gyfeiriodd at y gynghanedd fel ‘that horrid jingle’) i’r datblygiadau mwyaf diweddar.

Content

Chwe gweithdy dwyawr o hyd a phum seminar ddwyawr o hyd dros gyfnod o 11 wythnos.

1. Gweithdy: hanfodion ymarferol y gynghanedd (y ‘sbectol gynganeddu’), sef cytseiniaid/llafariaid, sillafau, acen, odl;
2. Gweithdy: y gynghanedd gytsain, gyda phwyslais ar gynganeddu geiriau unigol ac osgoi proestio;
3. Gweithdy: y gynghanedd gytsain, gyda phwyslais ar gynganeddu geiriau unigol gyda mwy nag un gair arall;
4. Gweithdy: y gynghanedd gytsain, gyda phwyslais ar lunio llinellau seithsill;
5. Gweithdy: ymarfer llunio cynganeddion cytsain, gan ganolbwyntio ar feiau a goddefiadau;
6. Gweithdy: y gynghanedd sain a’r gynghanedd lusg;
7. Seminar: darllen a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd yng ngwaith beirdd cyfoes;
8. Seminar: darllen a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd yng ngwaith y cynfeirdd, y gogynfeirdd a’r cywyddwyr, gan olrhain twf a datblygiad y grefft;
9. Seminar: darllen a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd yng ngwaith beirdd y cyfnod modern cynnar, o anterliwtiau Twm o’r Nant i waith yr emynwyr a’r awdlau eisteddfodol, ynghyd ag adfywiad y canu cynganeddol gan feirdd a hynafiaethwyr y ddeunawfed ganrif a’i ddylanwad ar y canu caeth a’r canu rhydd, yr awdl a’r bryddest;
10. Seminar: theorïau yn ymwneud â’r gynghanedd, megis dadleuon R.M. Jones ynghylch ‘gwahuno’, ymchwil diweddar i berthynas y gynghanedd a niwrowyddoniaeth;
11. Seminar: y defnydd o’r gynghanedd y tu hwnt i farddoniaeth, megis mewn penawdau papur newydd a chylchgronau, hysbysebion ac ar Twitter.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Mae ymarfer a dadnsoddi cynganeddu yn golygu cyfri sillafau sylfaenol.
Communication Asesir y gallu i gyfathrebu’n effeithlon yn Asesiad 2. Datblygir y gallu hwnnw yn y seminarau’n bennaf.
Improving own Learning and Performance Datblygir gallu’r myfyrwyr i wella eu dysgu a’r perfformiad drwy’r tasgau wythnosol (Asesiadau 1 a 2).
Information Technology Anogir y myfyrwyr i wneud defnydd o’r Bwrdd Du ac (mewn cyswllt ag Asesiadau 2 a 3) i ddod o hyd i ddeunydd yn ymwneud â’r gynghanedd ar lein.
Personal Development and Career planning Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Problem solving Datblygir drwy’r gweithdai a’r seminarau allu’r myfyrwyr i ddatrys problemau’n analytig, yn arbennig yn achos Asesiad 1, ond y mae’n berthnasol hefyd ar gyfer Asesiadau 2 a 3.
Research skills Asesir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth yn feirniadol yn Asesiad 2 a 3.
Subject Specific Skills Y gallu i adnabod, dadansoddi a llunio cynganeddion, a thrwy hynny i ddeall o’r newydd rai agweddau hanfodol ar yr iaith Gymraeg.
Team work Asesir y gallu i gyfrannu at waith tîm fel rhan o’r seminarau’n bennaf, ond y mae’n berthnasol hefyd i’r gweithdai.

Notes

This module is at CQFW Level 5