Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu

Module Identifier
CY32420
Module Title
Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Rhianedd Jewell
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
CY22420
Other Staff
Professor Mererid Hopwood
Ms Elizabeth Morse
Dr Rhianedd Jewell

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Tasgau cyfieithu: Tair tasg gyfieithu; y ddwy dasg orau i'w hasesu. 1000 o eiriau 30%
Semester Assessment Prawf Cyfieithu: 1 Hours yn y dosbarth ar gyfrifiadur. 1 Awr 30%
Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 40%
Supplementary Assessment Tasgau cyfieithu: Tair tasg gyfieithu (y ddwy dasg orau i'w hasesu) 1000 o eiriau 30%
Supplementary Assessment Prawf Cyfieithu: 1 Hours yn y dosbarth ar gyfrifiadur. 1 Awr 30%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Cyfieithu testunau proffesiynol eu natur i’r Gymraeg.
  2. Gwneud defnydd o adnoddau iaith ar-lein a rhaglenni cyfieithu peirianyddol yn effeithiol.
  3. Dangos dealltwriaeth drylwyr o gyweiriau’r Gymraeg wrth gyfieithu.
  4. Dadansoddi yn fanwl heriau’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru.
  5. Dangos dealltwriaeth drylwyr o hanfodion gwahanol fathau ar gyfieithu gan gynnwys cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn dysgu sgiliau cyfieithu proffesiynol ac yn rhoi cyflwyniad i heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu. Yn sgil y galw cynyddol am sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd ar draws Cymru, mae natur y sector cyfieithu yn esblygu. Bydd darlithoedd y modiwl yn trafod datblygiad y sector cyfieithu yng Nghymru, gofynion y diwydiant, swyddogaeth a heriau cyfieithu ar y pryd a datblygiadau technegol yn y maes megis cyfieithu peirianyddol a chofau cyfieithu. Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle ichi ymarfer sgiliau cyfieithu, golygu a phrawf-ddarllen a dysgu am yr adnoddau ieithyddol sydd ar gael i gynorthwyo’r gwaith.

Aims

Amcan y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i sgiliau cyfieithu proffesiynol drwy ddefnydd o dechnoleg cyfieithu a dysgu dealltwriaeth o ofynion a heriau'r sector cyfieithu.

Content

Bydd 10 darlith yn cyflwyno gwahanol agweddau ar y diwydiant cyfieithu, egwyddorion cyfieithu a gwaith cyfieithwyr proffesiynol. Trafodir pynciau megis:
Datblygiad cyfieithu yng Nghymru
Hanfodion cyfieithu proffesiynol
Cyfieithu yng ngweithleoedd Cymru
Cyfieithu peirianyddol
Cofau cyfieithu
Cyfieithu ar y pryd

Bydd gweithdai’r modiwl yn rhoi cyfle ichi ymarfer cyfieithu ar bapur ac ar gyfrifiadur ac ymarfer eich sgiliau golygu a phrawf-ddarllen. Cewch chi ddysgu am yr adnoddau iaith a ddefnyddir gan gyfieithwyr a gwneud defnydd ohonynt wrth ymarfer. Bydd cyfle yn y gweithdai hefyd i dderbyn adborth adeiladol ar eich gwaith cyfieithu.

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others Bydd cyfle i weithio mewn grwpiau wrth lunio cyfieithiadau mewn rhai gweithdai.
Creative Problem Solving Un o hanfodion y modiwl yw datblygu sgiliau cyfieithu sy’n galw am waith dadansoddi wrth drosi testun i iaith arall. Bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirfa, cystrawen, cywair a mynegiant.
Critical and analytical thinking Datblygir sgiliau dadansoddi wrth drafod heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu ac egwyddorion cyfieithu.
Digital capability Datblygir dealltwriaeth o gyfieithu peirianyddol, cofau cyfieithu ac adnoddau iaith ar-lein megis geiriaduron a phyrth termau. Anogir y myfyrwyr hefyd i wneud defnydd o’r Bwrdd Du.
Professional communication Datblygir sgiliau cyfathrebu proffesiynol yn y Gymraeg ar ffurf cyfieithiadau ysgrifenedig a thraethawd
Real world sense Datblygir dealltwriaeth o ofynion a heriau’r diwydiant cyfieithu proffesiynol.
Reflection Datblygir gallu’r myfyrwyr i wella eu dysgu a’u perfformiad drwy’r tasgau cyfieithu rheolaidd. Dysgir sgiliau golygu a phrawf-ddarllen sy’n cynorthwyo myfyrwyr i wella’u gwaith cyfieithu eu hunain.

Notes

This module is at CQFW Level 6