Ymarfer Cyfieithu a Golygu

Module Identifier
CYM6510
Module Title
Ymarfer Cyfieithu a Golygu
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Ms Elizabeth Morse
Reading List
View on Aspire
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cyfieithu (Hyd at 2,000 gair):: 1. Cynhyrchu portffolio o gyfieithiadau ysgrifenedig (1,250 o eiriau) 2. Llunio sylwebaeth feirniadol i gyd-fynd â’r portffolio (750 gair) 60%
Semester Assessment ​Golygu: ​Tasg golygu ymestynnol.: ​Hyd at 1,000 gair​ 40%
Supplementary Assessment Cyfieithu (Hyd at 2,000 gair):: 1. Cynhyrchu portffolio o gyfieithiadau ysgrifenedig (1,250 o eiriau) 2. Llunio sylwebaeth feirniadol i gyd-fynd â’r portffolio (750 gair) 60%
Supplementary Assessment ​Golygu: ​Tasg golygu ymestynnol.: ​Hyd at 1,000 gair​ 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. ​Gwerthuso’r broses gyfieithu a chynhyrchu cyfieithiadau cywir ac amrywiol i safon uchel.
  2. 2. Dadansoddi’n feirniadol eu hymdrechion unigol, a’u perthnasu â damcaniaethau cyfieithu allweddol.
  3. 3. Dadansoddi’n ddeallus ac ymateb yn feirniadol i ffactorau sy’n dylanwadu ar grefft y cyfieithydd yng Nghymru’r oes fodern.
  4. 4. Dangos meistrolaeth dros faes arbenigol o wybodaeth megis arddulliau golygu ynghyd a meistrolaeth dros sgiliau golygu arbenigol.
  5. 5. Golygu testunau amrywiol yn hyderus, i safon uchel ac at ddibenion niferus.
  6. 6. Trosglwyddo sgiliau cyfieithu a golygu i feysydd cysylltiedig megis prawfddarllen, gweithio’n gwbl ddwyieithog.

Brief description

Mae gwedd ymarferol bwysig i’r modiwl hwn a bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu dwy agwedd ar gyfieithu:

Llunio cyfieithiadau cywir a phwrpasol.

At y perwyl hwn, sonnir hefyd am ddamcaniaethau cyfieithu perthnasol a thrafodir gwahanol gyweiriau iaith a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gyfieithydd proffesiynol.

Mireinio sgiliau golygu o fewn y maes cyfieithu.

At y perwyl hwn, rhoddir cyflwyniad i waith golygyddion proffesiynol ac i wahanol gyweiriau a chyd-destunau golygu. Darperir cyfleoedd i ymarfer golygu a hefyd i ymateb i heriau’r oes fodern wrth olygu, megis ôl-olygu cynnyrch cyfieithu peirianyddol.

Content

Bydd yr amser cyswllt ar ffurf sesiynau’r rhwydwaith fideo a’r e-weithdai yn cynnwys yr elfennau canlynol:

Cyfieithu

Datblygu crefft y cyfieithydd a damcaniaethau cyfieithu perthnasol

Ymarfer cyd-destunau cyfieithu

Meysydd cyfieithu a’r diwydiant modern

Bydd y gwaith yn ymwneud â datblygu sgiliau cyfieithu ymestynnol drwy olrhain y prosesau hanfodol a thrwy ystyried yr holl ffactorau sy’n arwain at lunio cyfieithiadau llwyddiannus.

Golygu

Golygu - Cyweiriau iaith

Meistroli mynegiant a sicrhau ansawdd

Ol-olygu a gwerthuso cynnyrch cyfieithu peirianyddol.

Bydd y gwaith yn ymwneud a datblygu ymwybyddiaeth o systemau sicrhau ansawdd a datblygu sgiliau golygu ymestynnol.

Prawfddarllen – systemau a chonfensiynau

Bydd y gwaith yn cynnwys datblygu prosesau prawfddarllen proflenni er mwyn gwneud yn siwr na chyflwynir unrhyw wallau wrth i’r testun gael ei gysodi.

Aborth

Adborth manwl ac ymarfer arholiadau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rhoddir pwyslais mawr ar weithio’n annibynnol drwy ddulliau dysgu ar-lein, ac o ganlyniad mae adborth unigol a rheolaidd yn gwbl hanfodol.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Ni chaiff gwybodaeth rifyddol y myfyriwr ei asesu yn y modiwl hwn.
Communication Trwy’r ymarferion cyfieithu a golygu bydd y myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. Bydd gofyn i’r myfyrwyr hefyd gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio drwy gyfrwng yr e- weithdai.
Improving own Learning and Performance Wrth gwblhau tasgau bydd y myfyrwyr yn derbyn adborth yn rheolaidd. O ganlyniad byddant yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella’u perfformiad. Byddant hefyd yn derbyn adborth trwy gyfrwng yr e- weithdai a’r profiad ehangach.
Information Technology Gan mai modiwl ar-lein yw hwn, bydd y myfyrwyr yn ymuno â’r sesiynau dysgu trwy ddefnyddio ystod o lwyfannau e-ddysgu. Hefyd, bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig. Byddant yn defnyddio geiriaduron a therminolegau ar-lein, yn ogystal ag amrywiol gyfarpar cyfieithu a golygu, wrth ymarfer a chyflwyno aseiniadau. ​​
Personal Development and Career planning Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn gymorth iddynt wrth ddatblygu gyrfa. Trwy gyfrwng yr e-weithdai bydd cyfle hefyd i gael mewnbwn gan gyfieithydd a golygydd profiadol er mwyn cefnogi cynlluniau personol y myfyrwyr o ran gyrfa.
Problem solving Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (e.e. geiriaduron, cyfeirlyfrau, cronfeydd ar-lein) wrth ddewis a dethol pa adnoddau i’w defnyddio wrth gyfieithu, ymdrin â thestunau arbenigol a’u golygu. Byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud penderfyniadau.
Research skills Trwy’r ymarferion cyfieithu a golygu bydd y myfywryr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau cyn gwneud penderfyniadau deallus. Byddant yn ystyried gwahanol gyweiriau a gwahanol gynulleidfaoedd.
Subject Specific Skills Datblygir sgiliau cyfieithu a golygu trwy gwblhau cyfres o ymarferion, trwy ddefnyddio technoleg a thrwy gydweithio ag eraill o fewn y maes cyfieithu.
Team work Er mai modiwl Dysgu O Bell yw hwn, bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i gyfrannu at drafodaethau trwy gyfrwng y sesiynau ar-lein a’r e-weithdai. Byddant yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Byddant hefyd yn trafod adborth ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 7