Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol
- Module Identifier
- GQ20920
- Module Title
- Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Huw Lewis
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Christopher Phillips
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Cofnod Dysgu: Asesiad beirniadol wythnosol: 1000 o eiriau | 20% |
| Semester Assessment | Traethawd: 1500 o eiriau | 30% |
| Semester Assessment | Traethawd: 2500 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Aseiniad i gyfateb i'r Cofnod Dysgu: 1000 o eiriau | 20% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 2500 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 1500 o eiriau | 30% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Deall pwysigrwydd a dylanwad syniadau athronyddol a diwinyddol yng Nghymru.
- Disgrifio athroniaeth ac athrawiaethau ffigyrau Cymreig allweddol yng nghyd-destun traddodiadau syniadaethol ehangach.
- Dangos dealltwriaeth o elfennau allweddol o draddodiadau syniadaethol megis sosialaeth, cenedlaetholdeb a heddychiaeth.
- Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cyson dau gysyniad allweddol yng nghyd-destun y traddodiad syniadaethol Cymreig: 'radicaliaeth' a 'rhyddfreiniad'.
- Adlewyrchu ar a meddwl yn greadigol ynglŷn â'r cysylltiadau rhwng gwahanol syniadau a thueddiadau hanesyddol a rheini sy'n nodweddu'r Gymru gyfoes.
Brief description
Amcan y modiwl hwn yw trafod a dadansoddi syniadau sy'n deillio o'r cyd-destun Cymreig ac sy'n meddu ar elfennau gwleidyddol, athronyddol neu grefyddol - ac i ystyried eu perthnasedd i'r byd y tu hwnt i Glawdd Offa. Bydd cyfle i ystyried y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng y gwahanol ddamcaniaethau a chyfnodau hanesyddol dan sylw, ynghyd â chyfle i adlewyrchu ar y graddau y mae'r syniadau hyn yn adleisio agweddau o wleidyddiaeth a chymdeithas heddiw. Byddwn yn ystyried rhai o'r ffigyrau 'Cymreig' mwyaf enwog dros gyfnod hiraeth - o'r bumed ganrif i'r presennol.
Content
Bydd y modiwl 20 credyd hwn yn cael ei ddysgu ar sail ugain darlith a deg seminar. Amcan y darlithoedd fydd darparu braslun o'r cyd-destun rhyngwladol a hanesyddol cyn cyflwyno'r unigolion pwysig a fydd yn cael eu hastudio ynghyd ag elfennau pwysig o'u dysgeidiaeth. Bydd y seminarau yn cynnig cyfle i ymwneud â'r syniadau hyn mewn manylder, i'w gosod o fewn cyd-destun hanesyddol ehangach ac i adlewyrchu ar hyd a lled eu dylanwad ar hanes Cymru.
Bydd y meysydd allweddol a fydd yn cael eu hastudio yn ystod y modiwl yn cynnwys: Diwinyddiaeth a Dysgeidiaeth Pelagius; Cyfraith Hywel Dda; Gweledigaeth Glyndŵr ar gyfer Cymru; Athroniaeth Richard Price; Robert Owen a Photensial y Ddynoliaeth; Y Radical Cymreig - Pwy, Pryd Ble? Apostolion Heddwch Cymru; Bevan a'r Traddodiad Sosialaidd; Cenedlaetholdeb Cymreig; Meddylfryd Marxaidd Raymond Williams.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Dim yn perthnasol |
| Communication | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno eu dadleuon yn effeithiol. Byddant yn datblygu sgiliau i ddefnyddio’r ffynonellau niferus o wybodaeth sydd ar gael yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn glir wrth ysgrifennu a siarad. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i destun, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno eu hasesiadau ysgrifenedig mewn fformat prosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith i sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol. |
| Improving own Learning and Performance | Nod y modiwl yw hyrwyddo hunan-reoli ond o fewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gynullydd y modiwl a myfyrwyr eraill. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy ymgymryd â’u hymchwil eu hunain ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan arweiniad) ar gyfeiriad eu gwaith cwrs. Bydd yr angen i gwrdd â dyddiadau cau’r gwaith cwrs yn canoli sylw’r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser. |
| Information Technology | Bydd disgwyl i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith ar fformat prosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â cheisio ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig. |
| Personal Development and Career planning | Cynllunnir y modiwl hwn i fireinio a phrofi sgiliau fydd o fudd i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn benodol drwy siarad gyda grwpiau bach, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau pobl eraill. Ymhellach, bydd y gwaith ysgrifenedig yn gofyn bod myfyrwyr yn ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Caiff myfyrwyr eu hannog drwy gydol y modiwl i adfyfyrio ar eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol. |
| Problem solving | Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un nod canolog yn y modiwl; bydd cyflwyno traethawd yn golygu bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd yr angen i ymchwilio a pharatoi at seminarau hefyd yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau’n cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i’r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu’n rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai o faint. |
| Research skills | Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol er mwyn cwblhau’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio ffynonellau gwe, yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol. Caiff myfyrwyr eu hasesu’n rhannol ar eu gallu i gasglu deunyddiau ac adnoddau priodol a diddorol. |
| Subject Specific Skills | Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i’r pwnc sy’n eu helpu i ddeall, cysyniadau a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau pwnc benodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu a’i gilydd • Cymhwyso amrywiaeth o fethodolegau i broblemau gwleidyddol a chymdeithasol hanesyddol a chyfoes cymhleth. |
| Team work | Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ymarferion tîm yn y seminarau. I lawer o bynciau’r modiwl hwn, bydd y seminarau ar ffurf trafodaethau mewn grwpiau bach gyda myfyrwyr yn trafod fel grŵp y materion craidd sy’n ymwneud â phwnc y seminar. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon dosbarth hyn yn rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn caniatáu i’r myfyrwyr drin ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
International Politics,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622708 : +44 : +44 (0)1970 622021
interpol@aber.ac.uk: interpol@aber.ac.uk
