Crefydd, Hud a Gwyddoniaeth
- Module Identifier
- HA38620
- Module Title
- Crefydd, Hud a Gwyddoniaeth
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Professor Iwan Morus
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
HA28620 or HY28620
- Exclusive (Any Acad Year)
-
HY38620
- Other Staff
- Dr Yi Li
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Arholiad agored: 2000 o eiriau | 50% |
| Semester Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Arholiad agored: 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Deall ac ystyried datblygiadau diweddar ynglŷn a'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a chred.
- Gwerthfawrogi agweddau cyffredinol datblygiad gwyddoniaeth ers y cyfnod modern cynnar yng nghyswllt y berthynas â mathau eraill o gred boblogaidd.
- Deall cyd-destun diwylliannol gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.
- Adnabod a defnyddio mathau priodol o dystiolaeth hanesyddol er mwyn deall y berthynas rhwng gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.
Brief description
Rydym fel rheol yn meddwl am wyddoniaeth fel petai ar wahân i systemau cred eraill. Rydym hefyd yn dueddol o feddwl am y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd mewn termau o wrthdaro. Bydd y modiwl hwn yn dangos fod y berthynas rhwng gwyddoniaeth ac elfennau eraill o gred yn llawer mwy cymhleth na'r farn boblogaidd. Am y rhan fwyaf o'u hanes roedd gwyddoniaeth ac ystyriaethau crefyddol, er enghraifft, yn annatod. Daw'n amlwg nad oes modd gwerthfawrogi datblygiad hanesyddol unrhyw system gred heb gymryd eu perthynas â systemau cred eraill i ystyriaeth. Drwy ymchwilio cysylltiadau fel hyn medrwn ddeall llawer mwy ynglŷn â datblygiad gwyddoniaeth a'i rôl yn natblygiad diwylliant gorllewinol modern.
Aims
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a mathau eraill o gredoau poblogaidd rhwng y cyfnod modern cynnar a'r cyfnod modern. Drwy arddangos y berthynas rhwng gwahanol systemau cred bydd y modiwl yn fodd i gyflwyno datblygiadau diweddar o fewn hanesyddiaeth gwyddoniaeth.
Content
Darlithiau:
1. Cyflwyniad
2. Natur a Hud
3. Dynion Duwiol
4. Duw a'r Ymoleuad
5. Diwinyddiaeth Natur
6. Esblygiad a Chynnydd
7. Trydan Radical
8. Mesmereiddio Diwylliant
9. Edrych am Ysbrydion
10. Ysbrydeg
11. Tu Fewn i'r Séance
12. Darwin, Duw, a Diwygiad
13. Darwin Ddamniedig
14. Y Society for Psychical Research
15. Hud Llwyfan
16. Bydoedd Eraill
17. Grymoedd Dirgel
18. Dweddglo
Seminarau
1. Meddwl Hudol
2. Paratoi Traethodau
3. Pwerau Meddwl a Natur
4. Darwin
5. Chwarae gyda Ysbrydion
6. Edrych yn ôl
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
| Improving own Learning and Performance | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
| Information Technology | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
| Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
| Problem solving | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
| Research skills | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
| Subject Specific Skills | Datblygu gwybodaeth am ffononellau a llenyddiaeth hanesyddol ynglyn a'r berthynas gymleth rhwng crefydd, hud, a gwyddoniaeth. |
| Team work | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
History and Welsh History,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 621917 : +44 : +44 (0)1970 622021
history-enquiries@aber.ac.uk: history-enquiries@aber.ac.uk
