Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol

Module Identifier
MOR2200
Module Title
Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Tamsin Davies
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)

Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Adfyfyriad: Adfyfyriad 1000 gair ar y gweithdai a ddewisir 50%
Semester Assessment Traethawd NEU Gyflwyniad llafar: Cyflwyniad llafar wedi’i ddylunio i ddangos ymwybyddiaeth o’r prif feysydd y mae’r modiwl yn ymdrin â nhw, NEU draethawd 2000 gair ynglŷn â chrynodebau 50%
Supplementary Assessment Adfyfyriad: Adfyfyriad 1000 gair ar y gweithdai a ddewisir 50%
Supplementary Assessment Traethawd NEU Gyflwyniad llafar: Cyflwyniad llafar wedi’i ddylunio i ddangos ymwybyddiaeth o’r prif feysydd y mae’r modiwl yn ymdrin â nhw, NEU draethawd 2000 gair ynglŷn â chrynodebau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Bydd myfyrwyr yn medru arddangos rhychwant o sgiliau llyfryddiaethol a chyfrifiadurol.
  2. Byddant yn medru arddangos sgiliau mewn rhychwant o strategaethau lledaenu ymchwil, gan gynnwys ysgrifennu, cyflwyno ar lafar, a defnyddio'r rhyngrwyd a'r cyfryngau
  3. Gweithio fel rhan o dîm
  4. Byddant wedi ystyried rhai o'r sgiliau allweddol sydd angen eu meithrin wrth ddysgu mewn addysg uwch.
  5. Byddant yn medru arddangos eu bod yn gwerthfawrogi'r ystyriaethau sydd ynghlwm â rheoli prosiect ymchwil tymor hir.

Brief description

Darperir cyflwyniad i sgiliau ymchwil ac i agweddau ar ddatblygiad personol er mwyn cymhwyso myfyrwyr at waith ymchwil academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae'r modiwl yn rhoi arweiniad ynghylch datblygu nifer o sgiliau ymarferol, personol ac academaidd yn ogystal a sut i gywain gwybodaeth arbenigol a sut i ysgrifennu yn academaidd yn y Gymraeg. Mae’r gyfres o weithdai yn cynnig sesiynau ar drin a thrafod ffynonellau a thechnoleg gwybodaeth, rheoli ymchwil, sgiliau cyfathrebu, cyflogadwyedd a gyrfaoedd.

Content

Dysgir y modiwl drwy gyfres o weithdai sy'n ymdrin â sgiliau ymchwil a datblygiad personol, gan gynnwys:

* Rheoli ymchwil- rheoli amser a phwysau gwaith, rheoli'r goruchwyliwr, rheoli cyfeirnodau, rheoli termau, hawlfraint ac eiddo deallusol
* Sgiliau cyfathrebu - sgiliau ysgrifennu, cynhadleddau, cyflwyniadau llafar
* Sgiliau a dulliau ymchwil - archifau, adolygiadau llenyddol, dulliau yn y gwyddorau/celfyddydau a'r dyniaethau, ymchwil ansoddol
* Ar ôl eich PhD - rhwydweithio, cynllunio gyrfa, adnabod sgiliau, chwilio am swydd
Rhaid mynd i o leiaf 2 sesiwn breswyl a gynigir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu sesiynau cyfatebol

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others Ymdrinnir â gweithio ag eraill mewn sawl gweithdy. Dysgir y modiwl drwy weithdai sy’n defnyddio gwaith grŵp yn aml.
Creative Problem Solving Datblygir y gallu i feddwl yn feirniadol am broblemau ymchwil a chanfod y dulliau priodol i’w datrys.
Critical and analytical thinking Datblygir:Ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o ffynonellau sy’n addas i feysydd ymchwil penodol; Gwybodaeth ar sut i gael gafael ar ddeunyddiau cyfreithiol perthnasol sy’n ymwneud â materion megis cyfrinachedd, diogelu data a’r rheolau sy’n ymwneud â defnyddio eiddo deallusol.
Digital capability Datblygir gallu wrth ddefnyddio meddalwedd Microsoft, dod o hyd i.gatalogau llyfrgell, cyfnodolion electronig, a thraethodau ymchwil ar-lein ac arfau cyfrifiadurol ar gyfer ysgrifennu yn Gymraeg,
Professional communication Datblygir:Gwybodaeth am brosesau cyfathrebu academaidd; Ymwybyddiaeth o strategaethau cyflwyno llafar; Dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd o fynd ati i ysgrifennu.

Notes

This module is at CQFW Level 7