Hydrodynameg I
- Module Identifier
- MT25800
- Module Title
- Hydrodynameg I
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Professor Simon Cox
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
MA11210 or MT11210
- Other Staff
- Professor Simon Cox
- Dr Tudur Davies
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Gwaith cwrs: 40 Hours Datrysiadau i wyth taflen enghreifftiol a osodir bob yn ail wythnos. 40 Awr | 40% |
| Semester Exam | Arholiad: 2 Hours Arholiad 2 Awr | 60% |
| Supplementary Assessment | Gwaith cwrs: Datrysiadau i daflen problemau atodol. | 40% |
| Supplementary Exam | Arholiad: 2 Hours Arholiad 2 Awr | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Defnyddio fectorau, meysydd fector, calcwlws fector a systemau cyfesurynnau gwahanol er mwyn dadansoddi problemau mewn gofod 3-dimensiwn.
- Enrhifo integrynnau llinell, arwyneb a cyfaint. Cofio a chymhwyso theoremau Stokes, Green a dargyfeiriad.
- Egluro a chyfrifo cyfraddau newid darfudol.
- Cyfrifo'r forteisedd o lif llifydd delfrydol.
- Penderfynu os yw llif yn addas ar gyfer llifydd anghywasg.
- Cymhwyso a datrys yr hafaliadau rheoli llif ar gyfer llifydd delfrydol mewn sefyllfaoedd penodol.
- Darganfod y ffwythiant llif a'r potensial cyflymder sy'n disgrifio maes fector penodol.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno offer mewn calcwlws fector gaiff eu cymhwyso i ddatblygu'r cysyniadau sylfaenol mewn Hydrodynameg Glasurol, gan gynnig fframwaith fodern i Fecaneg Llifydd.
Aims
I gynnig fframwaith sylfaenol ar gyfer gwerthfawrogiad modern o Ddeinameg Llifydd.
I gyflwyno offer mewn dadansoddiad fector a'r cysyniadau sylfaenol o Hydrodynameg Clasurol.
I egluro sut gall modelu mathemategol o fudiant llifydd gynorthwyo gyda'n dealltwriaeth o ffenomenâu penodol o'r byd go iawn gan gynnwys rhai mewn cymwysiadau fel meteoroleg ac aerodynameg.
Content
1. Meysydd fector a sgalar 2D a 3D mewn cyfesurynnau Cartesaidd a polar.
2. Calcwlws Fector: graddiant, dargyfeiriad a cwrl o feysydd fector.
3. Integrynnau llinell ac arwyneb, y theorem dargyfeiriad.
4. Cyflymder, gwasgedd, gludedd, dwysedd a'r rhif Reynolds.
5. Systemau cyfeirnodi Euleraidd a Lagrangeaidd; cyflymiad a'r deilliad darfudol.
6. Cinemateg mudiant llifydd: Llinlwybrau, lliliniau, forteisedd.
7. Hafaliadau rheoli sylfaenol mudiant llifydd: Anghywasgedd a hafaliadau Euler.
8. Hafaliadau Bernoulli a chymwysiadau.
9. Strwythurau hydrodynameg syml: Tarddiadau, suddfannau, dwbledi. Llif potensial.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Co-ordinating with others | Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i weithio mewn grwpiau i ddatrys problemau. |
| Creative Problem Solving | Bydd yr aseiniadau'n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr arddangos creadigrwydd wrth ddarganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau |
| Digital capability | Anogir myfyrwyr i ddefnyddio'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl a'r cymhwysiadau posib. |
| Professional communication | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno atebion ysgrifenedig clir i ymarferion gosod. |
| Reflection | Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu dull eu hunain o ddysgu ac i ddefnyddio'r adborth maent yn ei dderbyn ar eu gwaith er mwyn cefnogi eu dysgu. |
| Subject Specific Skills | Ehangir datguddiad myfyrwyr i bynciau mewn mathemateg, a maes cymhwysiad nad ydynt wedi dod ar ei draws o'r blaen. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
