Agronomeg a Gwelliant Cnydau

Module Identifier
RG27600
Module Title
Agronomeg a Gwelliant Cnydau
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Cennydd Jones
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Scott Tompsett
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cyflwyniad Cynllun Gwarchod Cnydau: 15 Munud 50%
Semester Assessment Cynllun Rheoli Glaswelltir: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Cyflwyniad Cynllun Gwarchod Cnydau: 15 Munud 50%
Supplementary Assessment Cynllun Rheoli Glaswelltir: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Esbonio'r mecanweithiau y tu ôl i'r prif elfennau biotig sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant cnydau yn y DU.
  2. Disgrifio’r gofynion agronomegol sydd gan ystod o gnydau âr a phorthiant nad ydynt yn rawn.
  3. Rhoi disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o systemau cynhyrchu cnydau.
  4. Adnabod a chloriannu strategaethau priodol ar gyfer gwarchod cnydau.
  5. Deall pwysigrwydd cynhyrchu amrywiaethau cnydau a glaswelltir o ran nodweddion agronomeg ac ansawdd.

Brief description

Mae'r modiwl yn disgrifio agronomeg sylfaenol ystod o gnydau torri âr a’r rhai y gellir eu cynaeafu â chombein, gan gynnwys tatws, betys siwgr, rêp had olew a ffa maes. Ymhlith y nodweddion agronomegol mae cylchdroi, math o bridd, hau a sefydlu planhigion, maeth, gwarchod cnydau, cynaeafu a storio cnydau ar ôl eu cynaeafu. Bydd systemau gwrthgyferbyniol o gynhyrchu cnydau a glaswelltir yn cael eu trafod, a bydd effeithlonrwydd y systemau hyn yn cael eu cloriannu. Bydd cyfyngiadau biotig ar gynhyrchu yn canolbwyntio ar effaith clefydau, chwyn a phlâu ar gnydau âr, gan gynnwys mecanwaith a maint colledion cynnyrch, ymwrthedd cnydau, rheoli cemegol a biolegol, rheoli cnydau integredig. Yn olaf, bydd amcanion a chyflawniadau gwaith bridio cnydau âr, glaswellt a chodlysiau yn cael eu hadolygu.

Bydd y darlithoedd hyn yn cynnwys trafodaeth am yr amrywiaeth o weithdrefnau datblygu, cofrestru, lluosi ac ardystio, ac effaith debygol datblygiadau mewn biotechnoleg ar gynhyrchu a rheoli cnydau yn y dyfodol.

Aims

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus dylai'r myfyrwyr allu:
1. Esbonio'r mecanweithiau y tu ôl i'r prif elfennau biotig sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant cnydau yn y DU.
2. Disgrifio’r gofynion agronomegol sydd gan ystod o gnydau âr a phorthiant nad ydynt yn rawn.
3. Rhoi disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o systemau cynhyrchu cnydau.
4. Adnabod a chloriannu strategaethau priodol ar gyfer gwarchod cnydau.
5. Deall pwysigrwydd cynhyrchu amrywiaethau cnydau a glaswelltir o ran nodweddion agronomeg ac ansawdd.

Content

Systemau sy’n ymdrin â chnydau âr, glaswellt a phorthiant
Cylchdroi cnydau a chynllunio cylchdroi
Rheoli cnydau mewn modd integredig

Ar gyfer glaswelltir a phorthiant:
Systemau rheoli, cynhyrchu a gwarchod yr amgylchedd
Rheoli pori
Cadwraeth porthiant
Cnydau porthiant

Ar gyfer planhigion cnydau gan gynnwys rêp had olew, tatws, betys siwgr a ffa maes:
Gofynion y farchnad
Nodweddion amrywiaethau o borfeydd a sut y cânt eu defnyddio
Cylchdroi, paratoi pridd a sefydlu hadau
Maeth
Gwarchod planhigion: chwyn, afiechydon a rheoli plâu
Cynaeafu a thrin a storio ar ôl y cynhaeaf

Gwarchod cnydau
Sut mae clefydau’n datblygu ac epidemioleg
Strategaethau rheoli clefydau
Plâu a difrod gan blâu
Strategaethau rheoli plâu
Bioleg a chystadleuaeth chwyn
Rheoli chwyn
Gwarchod cnydau integredig

Bridio planhigion

Module skills

Skills type

Skills details

Critical and analytical thinking Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, dwyster stocio, cyflenwad silwair a rholaeth maetholion.
Digital capability Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu.
Professional communication Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol.
Real world sense Mae'r ddau aseiniad yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr wneud gwaith sydd yn debyg i sefyllfa go iawn.

Notes

This module is at CQFW Level 5