Prosiect Cynhyrchu Ensemble
- Module Identifier
- TC35520
- Module Title
- Prosiect Cynhyrchu Ensemble
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Gareth Evans
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
TP35520
- Other Staff
- Elin Morse
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Cyflwyniad Prosiect Grŵp: 10 Munud | 30% |
| Semester Assessment | Perfformiad Grŵp: (25-30 munud) | 70% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad Cysyniadol o Brosiect Ensemble: 15 Munud | 70% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad Prosiect Unigol: 5 Munud | 30% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Adnabod a mynegi methodolegau ymarfer priodol, a mynegi’n eglur sgiliau cyfansoddi priodol sy'n deillio o ymarfer ensemble cyfoes.
- Creu perfformiad byw sy'n mynegi ymwybyddiaeth a'r gallu i negodi anghenion ffurf dramatwrgiaethol penodol, y defnydd o adnoddau, y berthynas rhwng perfformiwr â chynulleidfa a'r gallu i gydweithio
- Arddangos gallu esthetig gynyddol soffistigedig wrth greu perfformiad ensemble, a'i fynegi trwy ymateb yn ystyrlon i adborth beirniadol.
- Mynegi arloesedd a dychymyg creadigol yn y strategaethau cyfansoddi a ddefnyddir.
- Arddangos gallu i ddadansoddi prosesau gweithio cydweithredol a chyfansoddol wrth greu perfformiad, a'u gosod o fewn cyd-destun ehangach ymarfer theatr a pherfformio cyfoes.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr lunio, datblygu, ymarfer, cynhyrchu a chyflwyno eu prosiect perfformio eu hunain mewn grŵp gan ymateb i friff penodol. Bydd y modiwl yn cael ei gynnal yn bennaf trwy weithdai hunan-arweiniol a fydd yn arwain at ddatblygiad perfformiad byw a all gael ei berfformio mewn stiwdio neu mewn lleoliad safle-benodol. Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan ddarlith/dangosiadau dan arweiniad staff yn ystod tair wythnos gyntaf y modiwl, gan ganolbwyntio ar astudiaethau achos o ymarfer ensemble ym maes theatr a pherfformio cyfoes. Bydd hyn yn creu sylfaen ar gyfer y gwaith ymarferol dilynol. Trwy gydol y modiwl, bydd staff yn arwain gweithdy un awr wythnosol, ble bydd myfyrwyr yn cyflwyno ac yn trafod gwaith a ddatblygwyd yn ystod y sesiynau ymarferol hunan-arweiniol.
Disgwylir i fyfyrwyr weithio ar y cyd i ddatblygu cyflwyniad cysyniadol ar gyfer y prosiect ensemble (i'w gyflwyno yn wythnos pedwar) ac wedi hynny tuag at berfformiad byw 25 – 30 munud ar ddiwedd y semester i'w gyflwyno yn wythnos olaf ond un y semester.
Content
Darlith: 3 x 1 awr
Gweithdiau: 8 x 1 awr
Ymarferion Hunan-Arweiniol: 18 x 2 awr
Ran amlaf, bydd y broses o ddatblygu darn perfformio cydweithredol yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- adnabod modelau o greu theatr ac o arferion perfformio cyfoes er mwyn efelychu a datblygu dulliau o ddyfeisio a chreu (e.e. Goat Island; Lone Twin; Frantic Assembly, ac ati).
- ymchwilio i wahanol fodelau dramatig a'u cymhwyso yn y gwaith
- sgorio neu sgriptio priodol
- cynllunio a gweithredu proses ymarferion a hyfforddiant priodol
- cynllunio a gweithredu elfennau senograffig a thechnolegol
- archwilio cyfres o ddewisiadau ynghylch ffurfio grŵp cydweithredol
- negodi rolau o fewn y grŵp, mannau cychwyn ar gyfer y gwaith, dewisiadau esthetig a methodolegau gwneud theatr gydweithredol
- rheoli cyllideb, amser ac adnoddau technegol
- nodi a gwerthuso'r berthynas rhwng y gynulleidfa â'r perfformiwr, a chreu llwyfaniad priodol ar gyfer y digwyddiad byw
Drwy gydol y broses, anogir myfyrwyr i gymhwyso eu hymarfer creadigol a hunanfeirniadol ei hunain er mwyn gwireddu'r digwyddiad perfformiadol a'i gyd-destunoli ym meysydd theatr a pherfformio cyfoes.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Co-ordinating with others | Gallu i gydweithio ag eraill; negodi prosesau cydweithio; cydweithio ag eraill er mwyn cyflwyno cyfanwaith gorffenedig. |
| Creative Problem Solving | Datblygu gwaith ar y cyd ag eraill yn annibynnol. |
| Critical and analytical thinking | Gorfod datblygu gwaith drwy broses hunan-arweiniol ac ymateb i adborth wythnosol. |
| Subject Specific Skills | Gallu i greu, datblygu, a pherfformio gwaith perfformio gorffenedig. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Theatre, Film and Television Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622828 : +44 : +44 (0)1970 622021
tfts@aber.ac.uk: tfts@aber.ac.uk
