Creu Podlediadau
- Module Identifier
- YD14005
- Module Title
- Creu Podlediadau
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- No staff with Userid: CHP
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Podlediad yn defnyddio Panopto: 10 Hours 10 Awr | 30% |
| Semester Assessment | Cofnod y cwrs: 1000 o eiriau | 50% |
| Semester Assessment | Creu persona: 250 o eiriau | 20% |
| Supplementary Assessment | Creu persona: 250 o eiriau | 20% |
| Supplementary Assessment | Cofnod y cwrs: 1000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Podlediad yn defnyddio Panopto: 10 Hours 10 Awr | 30% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Creu podlediad byr gan ddefnyddio Panopto
- Dogfennu eich proses feddwl a phenderfyniadau o fewn cofnod o’r cwrs
- Creu rhithffurf o’ch cynulleidfa darged
Brief description
Mae nifer ohonom yn defnyddio podlediadau i ddifyrru ein hamser wrth i ni wneud rhywbeth arall am 40 munud, yn yr un modd â gwrando ar y radio. Mae’n llwyfan amlbwrpas ar gyfer trafodaethau, gwybodaeth am bynciau sydd o ddiddordeb a hefyd at ddibenion adloniant. Wyddech chi fod y rhan fwyaf o bodlediadau wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r amser cymudo cyfartalog. Mae nifer o addysgwyr bellach yn defnyddio’r llwyfan i rannu deunydd addysgol gyda gogwydd. Mae podlediadau yma i aros ac mae’r radio traddodiadol wedi dioddef.
Bydd y modiwl hwn yn eich tywys drwy’r broses o gynllunio podlediad, y peryglon, y datganiad lifft, graffeg logo a marchnata yn ogystal â gofynion technegol. Byddwch yn astudio’r modiwl ar eich cyflymdra eich hun a cheir tasgau rhyngweithiol i gyfeirio eich penderfyniadau ar hyd y ffordd a’ch atal rhag chwythu’ch plwc.
Content
Cyn i mi ddechrau.
Sut y cyflwynir y dysgu, beth a ddisgwylir gennych a sut mae’r asesiad yn edrych?
Pa offer fydd ei angen arnoch? Offer, syniadau, graffeg ac amser.
Tasg: Dewiswch 5 o’r rhestr hon, gwrandewch a gwerthuswch fanteision ac anfanteision y podlediadau hyn; beth sy’n debyg a beth sy’n unigryw?
Art Curious. True Crime, Twenty Thousand Hertz, Infinite Monkey cage, Fortunately, Shreds: Murder in the Dock, The Shrink Next Door, Griefcast, The Dropout, All in the Mind, Frank Skinner’s Poetry Podcast. Table Manners, The Sculptors Funeral, Americast, The Alfred Daily, Moth Hour Radio, Fortunately, Tracks
Arferion cyffredin: dolenni, hysbysebion, jingl, trêts, amgylcheddau, naws, arddull y disgrifiad, cyflymdra, atalnodau llawn.
Uned Un: Gwneud penderfyniadau
Pwy yw eich cynulleidfa? Crëwch rithffurf o’ch cynulleidfa. Ble maen nhw’n cyfarfod, beth yw eu diddordebau, a ydynt yn fewnblyg neu’n allblyg?
Sut ydych am ei gyflwyno? Pa mor hir fydd y podlediad? Pa mor rheolaidd fyddwch chi’n postio? Beth ydych chi eisiau ei ddweud? Pa bodlediadau eraill sy’n debyg? Beth sy’n wahanol am eich syniad? Allech chi ei ddefnyddio ar gyfer addysgu arloesol? Enghreifftiau: York Festival of Ideas
Fideo neu sain/ rhyngweithio â chynulleidfa?
Tasg: dod o hyd i enghreifftiau o bodlediadau sy’n addysgu, gwerthu, cyfarwyddo, dysgu, adlonni, meithrin diwylliant.
Edrychwch ar y graffeg, jingls ac is-bennawd,
Asesiad: Crëwch eich rhithffurf 100 gair
Uned Dau: Proses a Chyflwyno
Yr enw a’r hashnodau – marchnata, cynhesu’r llais, paratoi eich amgylchedd, ble rydych chi’n eistedd ar y sgrin, paratoi sgript.
Uned tri: Graffeg a marchnata
Teitl ac is-bennawd
Llun marchnata
Hashnodau
Iaith ddarbwyllol
Tasg mewn dyddiadur: creu llun ac is-bennawd
Uned Pedwar: Gofynion technegol
Golygu – a mwy o olygu: cymhareb waith.
Cymorth Technegol - Garage Band / Audacity
Lansio – ymgyrch ar y cyfryngau
Llwyfan / gwesteiwyr? - Podbean, Anchor
Cyfyngiadau a graffeg ychwanegol
Cerddoriaeth –
Tasg: Defnyddio Panopto a chadw recordiad ar gyfer asesu
Asesiad, Dathlu ac Adborth
Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yng nghronfa ddata’r modiwl. Mae’n rhaid i’r wybodaeth fod yn weddol fanwl a dylai gynnwys y pynciau i’w trafod a darparu syniad o’r amser a’r math o drosglwyddiad y gellir ei ddisgwyl megis darlithoedd, seminarau a ffurfiau eraill o gyflwyno. Os yw cydweithwyr yn rhy gyfarwyddol wrth osod cynnwys y cwrs yn y MAF, gallai gyfyngu ar eu gallu i wneud addasiadau i seminarau neu ddarlithoedd unigol wrth ymateb i ddatblygiadau yn y maes neu werthusiadau modiwl. Gellir cyhoeddi’r cynllun wythnos wrth wythnos manwl sy’n gosod allan y darlithoedd, y seminarau ac ati ar Blackboard, mewn llawlyfrau modiwl neu gyfwerth oherwydd gallai agweddau ar y cyflwyniad newid o flwyddyn i flwyddyn ond heb unrhyw newid i’r cynnwys ei hun, a fyddai’n golygu ailgyflwyno MAF.
Amcanion
Cyfres o dasgau ar-lein wedi’u cyflwyno fel y gallwch ddysgu ar eich cyflymder eich hun a defnyddir tair elfen asesu fel adborth diferol.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Co-ordinating with others | Bydd hyn yn golygu dod o hyd i siaradwr neu gyfwelydd i ofyn cwestiynau ar gyfer eich cynnwys |
| Creative Problem Solving | Mae gweithio gyda thechnolegau newydd a dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau yn rhan o’r modiwl hwn ond ni chaiff ei asesu’n swyddogol |
| Digital capability | Bydd angen dysgu defnyddio pecynnau technoleg newydd |
| Real world sense | Sgil datblygu proffesiynol |
| Reflection | Bydd cofnod y cwrs yn annog myfyrio ar bodlediadau presennol i bennu ymchwil i’r farchnad |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Lifelong Learning,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 621580 : +44 : +44 (0)1970 622021
:
