Module Information

Cod y Modiwl
TC39920
Teitl y Modiwl
Ffilm a Theatr Americanaidd
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd/ traethawd fideo  Traethawd 2,000 o eiriau neu draethawd fideo (cyfwerth â 2,000 o eiriau) ar gwestiwn penodol.  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd Ymchwil  Traethawd ymchwil 2,000 gair, neu traethawd ymchwil fideo 5 munud, ar gwestiwn wedi dyfeisio gan y fyfyriwr mewn trafodaeth efo'r tiwtor.  50%
Asesiad Semester Traethawd/ traethawd fideo  Traethawd 2,000 o eiriau neu draethawd fideo (cyfwerth â 2,000 o eiriau) ar gwestiwn penodol.  50%
Asesiad Semester Traethawd Ymchwil  Traethawd ymchwil 2,000 gair, neu traethawd ymchwil fideo 5 munud, ar gwestiwn wedi dyfeisio gan y fyfyriwr mewn trafodaeth efo'r tiwtor.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Y gallu i ddadansoddi’n gritigol y cyd-destunau diwylliannol a diwydiannol o amgylch cynhyrchiadau penodol.

Y gallu i ddadansoddi’n critigol damcaniaethau addasiad rhwng y ffurfiau gwahanol o berfformio/chynhyrchu.

Defnyddio fframwaith beirniadol i ddehongli y perthynas rhwng theatr a ffilm.

Adnabod ac archwilio amryw o ffynonellau er mwyn dadansoddi cynnwys a chynhyrchiad testunau priodol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn rhoi’r cyfle i edrych ar hanes a diwylliant ffilm a theatr yn yr Unol Daleithiau a’r cysylltiadau rhyngddynt. Mae 10 wythnos dysgu wedi eu rhannu rhwng arolwg hanesyddol o’r datblygiadau yn a rhwng y ddau cyfrwng ac astudiaethau achos yn ymchwilio digwyddiadu penodol, y pwysigrwydd o genre, a’r cynrychiolaeth o grwpiau a chymunedau.

Nod

Bydd y modiwl yn uno traddodiadau ffilm efo drama a theatr er mwyn edrych ar hanes y ddau ffurf a'u cysylltiadau ar draws yr Ugeinfed Ganrif ac yn y cyfnod cyfoes.

Cynnwys

Rhai o’r testunau o dan sylw fydd: traddodiadau perfformio, effaith ‘helfa gwrachod’ McCarthy, y symudiad o berfformwyr a chynhyrchwyr/awduron rhwng ffilm a theatr, genre y ‘musical’ yn y ddau ffurf, a’r addasiadau o waith llwyfan i ffilm ac yn y cyfnod cyfoes yr addasiad o sinema i’r llwyfan.
Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu trwy cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a sesiynau gwylio, er mwyn rhoi'r cyfle i amlinellu pynciau difyr a gwrthgyferbyniol a trafod y gwahaniaethau rhwng yr ymchwiliad o'r pynciau ar y sgrin a'r llwyfan.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a pynciau academaidd er mwyn ymrwymo yn y sesiynau wythnosol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y myfyrwyr yn trin pynciau academaidd gwahanol ar hyd y modiwl. Mae disgwyliadau byddynt yn ymchwilio ac adlewyrchu ar casgliad o ffynonellau a phynciau yn y sesiynau dysgu a’r aseiniadau
Myfyrdod Bydd cyfle i ddefnyddio ‘asesu-cyfoed’ (peer-assessment) efo rhai aseiniadau er mwyn rhoi sylwebaeth ar y broses o weithio fel grŵp.
Sgiliau Pwnc-benodol Ymrwymo’n gritigol efo damcaniaethau a trafodaethau o fewn y maes, a’u rhoi i ddefnydd cynhyrchiol. Deall ffurfiau o gyfarthrebu, y cyfryngau, ffilm a theatr, sut maent wedi ymddangos yn hanesyddol, a gwerthfawrogi y prosesau maent wedi codi trwyddynt, efo cyfeiriadau at newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a technolegol. Defnyddio gwahanol fathau o ymchwil am traethodau, prosiectau, cynhyrchiadau creadigol Lleoli, chwilio, a defnyddio amryw o ddata, ffynonellau, a fframwaith cysyniadol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6