Module Information

Cod y Modiwl
DA22510
Teitl y Modiwl
Geomorffoleg Afonol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad heb ei weld  o flaen llaw gydag adran atebion byr a thraethawd  75%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad heb ei weld  o flaen llaw gydag adran atebion byr a thraethawd  75%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ffliwm hydrolig  Adroddiad ffliwm hydrolig  25%
Asesiad Semester Adroddiad ffliwm hydrolig  Adroddiad ffliwm hydrolig  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Disgrifio ac esbonio prosesau erydiad, cludiant a dyddodi sydd yn gweithredu ar lethrau ac mewn sianel afon.

Disgrifio ac esbonio sut y mae newidiadau mewn llif a chyflymder yn effeithio gweithrediad prosesau afonol a sut y maent yn effeithio geometreg y sianel a phatrymau sianeli afon.

Trafod y datrysiadau rheolaeth a ellid eu cymhwyso er mwyn datrys problemau sefydlogrwydd llethr a phroblemau erydiad/dyddodiad mewn sianeli afon.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw i ddarparu gwerthusiad manwl o'r prosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon cyfoes. Yn gyntaf, ystyrir system y llethr, lle mae prosesau mas symudiad a phrosesau creu sianeli yn bwysig. Mae gweddill y cwrs yn canolbwyntio ar brosesau sydd yn weithredol o fewn system y sianel. Ymhob darlith, cefnogir theori sianel gan enghreifftiau o astudiaethau achos, gan roi sylw penodol i oblygiadau prosesau geomorffolegol naturiol ar reolaeth afon.

Cynnwys

Fe drafodir y thema^u canlynol yn ystod darlithoedd y modiwl.
  • Egwyddorion geomorffoleg, cyfundrefnau gweithgarwch, trothwyon.
  • Methiant / erydiad ar lethrau
  • Prosesau pen-y-nant a datblygiad rhwydweithiau.
  • Prosesau'r sianel: dw^r a gwaddod.
  • Geometreg hydrolig.
  • Erydiad glan a gwely.
  • Patrymau sianel a chyfraddau newid.
  • Rheoli sianeli.
  • Trwy gydol y modiwl, ehangir y thema^u a gyflwynwyd yn ystod modiwl Amgylcheddau Wyneb y Ddaear / Earth Surface Processes: cydberthynas proses a thirffurf, ymateb prosesau, cydbwysedd a throthwyon. Bydd pwyslais arbennig yn cael ei roi ar y cydgysylltedd rhwng y systemau amrywiol o brosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Sgiliau ysgrifennu traethawd wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ac wrth sefyll yr arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu traethodau a chanolbwyntio ar strategaethau rheoli pwysig a ddefnyddir yn y maes rheoli amgylcheddol.
Datrys Problemau Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddeall tarddiad prosesau ffisegol allweddol a gwerthuso strategaethau a ddefnyddir i fonitro a rheoli rhannau allweddol o'r system afonol
Gwaith Tim Dim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Darllen annibynnol yn seiliedig ar restr ddarllen
Rhifedd Bydd pwyslais ar ddeall ffurfiau'r basn mewn modd meintiol ac ar ddatrys a dadansoddi problemau rhifyddol yn yr arholiad.
Sgiliau pwnc penodol Dim
Sgiliau ymchwil Darllen annibynnol a pharatoi ar gyfer yr arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Bydd mynediad at adnoddau helaeth y llyfrgell a'r we yn hanfodol ar gyfer datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5