Module Information

Cod y Modiwl
CB38000
Teitl y Modiwl
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad terfynol  (3,000 o eiriau)  70%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio  10 Munud  30%
Asesiad Semester Adroddiad terfynol  (3,000 o eiriau)  70%
Asesiad Semester Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio  10 Munud  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Gweithredu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o Fusnes a Rheolaeth yn ymarferol.

2. Adnabod tasgau ac anawsterau sy’n berthnasol i’r sefydliad a hwyluso canlyniadau pwrpasol.

3. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u sgiliau eu hunain.

4. Gweithredu ynghyd ag unigolion a grwpiau o fewn y sefydliad.

5. Datblygu’r gallu i fyfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y profiad gwaith.

6. Cyflwyno syniadau yn effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

7. Cyfathrebu a chyd-weithio yn effeithiol gyda chyfoedion a gyda ystod eang o unigolion o fewn y lleoliad profiad gwaith.

8. Datbygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cynnwys darllen, cymathu, archwilio a beirniadu systemau cymleth cyfundrefnol neu sefydliadol.

9. Datblygu’r gallu i cyfathrebu gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol gan ddefnyddio dulliau addas i’r lleoliad gan gynnwys cyfathrebu ar lafar, trwy ysgrifen neu ddulliau electroneg.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yma yn darparu profiad penodol ac ymarferol yn y gweithle a fydd yn ychwanegu at ragolygon myfyrwyr ar gyfer eu cyflogadwyedd yn y dyfodol mewn meysydd dewisiol. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr weithio o fewn sefydliadau masnachol, llywodraeth, awdurdod lleol neu mewn sefydliad elusennol. Gall myfyrwyr weithredu yn ystyrlon i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd tra’n cyfrannu yn arwyddocaol at waith y sefydliad. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr adlewyrchu’n feirniadol ar eu datbygiad proffesiynol a’u datblygiad personol. Ni ellir sicrhau lle ar y modiwl ar gyfer unrhyw fyfyriwr a gellir cynnal cyfweliadau er mwyn cynnig llefydd.

Nod

-

Cynnwys

Dysgir y modiwlau tros ddau semestr. Dysgir y modiwl trwy brofiad gwaith ac yn ystod 8 seminar o 1 awr yr un. Disgwylir i’r profiad gwaith gymeryd lle yn rheolaidd e.e. dydd Mercher am 7 awr. Cyd-lynydd y modiwl fydd yn trefnu’r profiad gwaith gan amlaf ond gall myfyrwyr ddod o hyd i’w profiad gwaith ei hunain yn ystod gwyliau’r haf cyn iddynt ddechrau eu trydydd flwyddyn, cyn belled eu bod wedi llwyddo yn yr ail flwyddyn, neu gallant gwblhau’r profiad gwaith yn ystod gwyliau’r Nadolig wedi iddynt ddechrau’r modiwl. Mae’n angenrheidiol fod Cyd-lynydd y modiwl yn cymeradwyo’r profiad gwaith ymlaen llaw. Er mwyn i’r profiad gwaith gael ei gymeradwyo mae’n rhaid i’r myfyrwyr gwblhau o leiaf 112 awr o waith. Ni chaiff myfyrwyr dreulio mwy na mwyafrif o 126 awr ar brofiad gwaith. Ni chaniateir gwyriad o’r nifer o oriau heblaw fod y Cyd-lynydd wedi caniatau hynny. Disgwylir i’r myfyrwyr ymgymeryd mewn gwaith ymchwil ar gyfer paratoi ac ysgrifennu adroddiad o 3,000 o eiriau. Dylai’r adroddiad am y profiad gwaith asesu dealltwriaeth myfyrwyr o’r projectau maent wedi bod yn ran ohonynt ac asesu eu gallu i fyfyrio ar y canlyniadau o’r profiad gwaith. Gall yr adroddiad fod ar ffurf traethawd academaidd am y profiad gwaith, h.y. nid yn unig yn cymeryd i ystyriaeth y tasgau a gwblhawyd ond adlewyrchiad academaidd beirniadol cryf sy’n pwysleisio’r cysylltiad rhwng y profiad gwaith a’r meysydd perthnasol a astudir.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Defnydd effeithiol o wahanol fathau o gyfathrebu, sy’n cynnwys yr adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar. Yn ogystal a hyn, caiff cyfathrebu ar lafar ei annog a’i ddatblygu yn ystod trafodaethau rhyngweithiol mewn seminarau ac yn ystod rhyngweithio gyda chyd-weithwyr a chleientiaid/neu gleientiaid yn y lleoliad profiad gwaith.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd dysgu trwy gydol y modiwl yn arfogi’r myfyrwyr gyda’r gwybodaeth angenrheidiol, y sgiliau trosglwyddiadwy a’r hyder i lwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Saif y modiwl yn gadarn ar gyfer ehangu dysgu’r myfyrwyr yn y meysydd hyn. Yn wir, dyna’r ethos sy’n sail i’r modiwl yma.
Datrys Problemau Yn ystod y Profiad Gwaith bydd yn rhaid i’r myfyrwyr ddatrus llawer o broblemau ymarferol a all godi a fydd yn cynyddu eu sgiliau datrus problemau ymarferol a beirniadol
Gwaith Tim Fel rheol, dibyna sefydliadau ar weithio fel tim felly bydd y modiwl, wrth reswm, yn cynyddu sgiliau gweithio mewn tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd derbyn asesiad fel canlyniad i’r adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar yn cynyddu hunan-ymwybyddiaeth a’r gallu i hunan-fyfyrio yn feirniadaol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd datblygu sgiliau pynciol penodol yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau yma’n dibynu ar y lleoliad profiad gwaith.
Sgiliau ymchwil Bydd sgiliau ymchwil myfyrwyr yn cael eu datblygu trwy eu defnydd o lenyddiaeth ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Ceir trwy weithgareddau yn ystod y profiad gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6