Module Information

Cod y Modiwl
CY11020
Teitl y Modiwl
Ymwneud â'ch pwnc yn Gymraeg: sgiliau dwyieithog ar gyfer y brifysgol a'r gweithle
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Darn myfyriol  (800 gair) Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  10%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar  (7 munud + cwestiynau) Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  20%
Asesiad Ailsefyll Portffolio o ymarferon  (1500 gair) Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  50%
Asesiad Ailsefyll Crynodeb pynciol gyda llyfryddiaeth a chyfeirnodi llawn  (1000 gair) Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  (7 munud + cwestiynau)  20%
Asesiad Semester Cyfraniad at drafodaeth mewn seminarau  (10 awr)  10%
Asesiad Semester Crynodeb pynciol gyda llyfryddiaeth a chyfeirnodi llawn  (1000 gair)  20%
Asesiad Semester Portffolio o ymarferon  (2000 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos sgiliau darllen, trafod, dehongli, a gwerthuso beirniadol

Dewis a dethol ffynonellau priodol ar gyfer eu hastudiaethau academaidd

Gweithio gyda deunydd darllen yn Gymraeg a Saesneg, gan ddefnyddio sgiliau trawsieithu, aralleirio, throsi a rheoli termau yn briodol.

Deall a defnyddio confensiynau ysgrifennu academaidd Cymraeg, gan gynnwys cywair, defnyddio cystrawen naturiol y Gymraeg a chyfeirnodi.

Deall a defnyddio prosesau cynllunio, strwythuro, drafftio a golygu aseiniadau.

Cymryd cyfrifoldeb am loywi eu hiaith eu hunain, gan gynnwys defnyddio arfau iaith cyfrifiadurol.

Cyflwyno a thrafod pwnc ar lafar mewn dull naturiol a rhydd.

Adnabod a defnyddio sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y gweithle.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn arfogi myfyrwyr i astudio drwy’r Gymraeg yn y Brifysgol a hefyd defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol yn y gweithle. Bydd yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i astudio a gweithio’n ddwyieithog, ynghyd â sgiliau academaidd cyffredinol. Drwy gyfres o sesiynau ymarferol, cyflwynir sgiliau megis ysgrifennu academaidd yn Gymraeg, cyflwyniadau llafar, gloywi iaith a defnyddio deunydd darllen cyfrwng Saesneg wrth astudio’n Gymraeg. Bydd y modiwl hwn hefyd yn paratoi myfyrwyr at astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. (Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n dymuno sefyll y Dystysgrif gofrestru ar wahân ar gyfer y cymhwyster).

Cynnwys

Sesiynau ymarferol (2 awr yr un):
1)Sgiliau gwybodaeth: Primo, rhestrau darllen, llyfrgell adnoddau’r Coleg Cymraeg, ffynonellau dilys
2)Darllen a chymryd nodiadau: defnyddio deunydd Saesneg, sicrhau cyfeirnodi digonol, gwerthuso deunydd
3)Help cyfrifiadurol i ysgrifennu yn Gymraeg
4)Ysgrifennu academaidd: cywair, termau, dylanwad y Saesneg
5)Cyflwyniadau llafar a chywair llafar
6)Ysgrifennu i’r gweithle: gwallau iaith cyffredin, golygu
7)Ysgrifennu aseiniadau: dehongli cwestiynau, cynllunio a strwythuro, drafftio ac ail-ddrafftio
8)Cyfeirnodi: sgiliau cyfeirnodi, dyfyniadau a chyfeiriadau wrth ysgrifennu yn Gymraeg, cyfieithu a thrawsieithu
9)Trawsieithu i’r gweithle
10)Ysgrifennu rhydd
Seminarau:
1)Gloywi eich iaith eich hunan
2)Gwallau iaith cyffredin
3)Trafod yn y dosbarth
4)Gweithio mewn grŵp
5)Cymraeg Clir
6)Paratoi at arholiadau
7)Cyflwyniadau llafar
8)Ysgrifennu rhydd
9)Trawsieithu
10) Ateb cwestiynau arholiad

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu drwy drafodaethau beirniadol mewn seminarau a sesiynau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith grŵp, cyflwyno ar lafar ac arfarnu gan gyfoedion.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau a fydd yn fantais fawr yn y gweithle dwyieithog. Anogir y myfyrwyr i adnabod y sgiliau hyn a’u miniogi. Wrth gwblhau’r modiwl hwn, bydd myfyrwyr wedi derbyn pump o’r chwe sesiwn gefnogol i baratoi myfyrwyr at Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe’u hanogir i gofrestru i sefyll y Dystysgrif yn ystod y flwyddyn academaidd ganlynol.
Datrys Problemau Mae pob sesiwn ac ymarfer yn cynnwys elfen o ddatrys problemau wrth i’r myfyrwyr ffurfio atebion a dehongliadau sy’n briodol i’w pwnc academaidd ynteu’r gweithle, gan gymhwyso’r sgiliau priodol.
Gwaith Tim Mae myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgareddau arfarnu gan gyfoedion a gweithgareddau trafod mewn seminarau a sesiynau ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gofynnir i fyfyrwyr baratoi portffolio o ymarferon a gynhyrchir drwy broses atblygol gan ddefnyddio arfarnu gan gyfoedion i wella eu gwaith. Bydd hefyd yn datblygu strategaethau ar gyfer gloywi eu hiaith eu hunain a datblygu arddull ysgrifennu academaidd.
Rhifedd Defnyddir gwybodaeth rifyddol sylfaenol wrth i’r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau trawsieithu, sgiliau cyflwyno a sgiliau arholiad.
Sgiliau pwnc penodol Darperir i’r myfyrwyr gist offer o sgiliau hanfodol ar gyfer astudio eu pwnc drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog. Byddant hefyd yn datblygu eu sgiliau ysgrifennu, llafar, gwerthuso, dehongli a dadansoddi’n feirniadol a’u cymhwyso.
Sgiliau ymchwil Mae’r modiwl yn gofyn am ddarllen, dadansoddi a dod o hyd i ddeunydd priodol. Mae defnyddio rhestrau darllen Aspire, Primo, Llyfrgell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac adnoddau cysylltiedig yn hanfodol.
Technoleg Gwybodaeth Gofynnir i fyfyrwyr ddefnyddio Microsoft Office a Blackboard fel rhan o’r modiwl. Mae defnyddio arfau iaith cyfrifiadurol yn hanfodol i bob aseiniad. Mae myfyrwyr hefyd yn dysgu sut mae adnabod gwerth ffynonellau cyfeiriol ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4