Module Information

Cod y Modiwl
RG23400
Teitl y Modiwl
Systemau Cynhyrchu Da Byw
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr  Arholiad cwestiwn amlddewis ac ateb byr yn cwmpasu'r holl ddeunydd a addysgir yn S1 ac S2.  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr  Arholiad cwestiwn amlddewis ac ateb byr yn cwmpasu'r holl ddeunydd a addysgir yn S1 ac S2.  40%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu  Taflen ffeithiau (fact sheet) yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau  60%
Asesiad Semester Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu  Taflen ffeithiau (fact sheet) yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Roi disgrifiad meintiol o systemau cynhyrchu anifeiliaid ac adnabod y rhyngweithio rhwng elfennau'r system

Adnabod prif rwystrau cynhyrchiant

Adnabod rol ymchwil yn natblygiad systemau cynhyrchu anifeiliaid

Dadansoddi cofnodion perfformiad da byw er mwyn adnabod, egluro a chywiro perfformiad is-optimaidd

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn disgrifio trefniadaeth a rheolaeth y prif systemau cynhyrchu gwartheg godro, eidion, defaid a moch yn y DU. Cyfeirir yn benodol at y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant anifeiliaid, iechyd a lles, effeithiolrwydd defnyddio adnoddau, perfformiad ariannol ac ansawdd y cynnyrch. Trafodir cymhwyso ymchwil i dwf, atgynhyrchu, llaetha, geneteg, maeth, iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer datblygu gwell systemau cynhyrchu.

Nod

Amcan y modiwl yw darparu disgrifiad manwl o'r rhyngweithiadau biolegol cymleth sy'n bodoli mewn systemau cynhyrchu anifeiliaid a chanfyddiad o sut y medrir ymgorffori darganfyddiadau ymchwil i wella cynhyrchiant yn ogystal a darparu'r sgiliau sylfaenol fydd yn galluogi myfyrwyr i ganfod problemau a chywiro perfformiad is-optimaidd.

Cynnwys

Strwythur diwydiannau cynhyrchu eidion, defaid, llaeth a moch y DU.
Rheoli bwyd gwartheg godro, sgor cyflwr, defnyddio porfa ac anoddau bwyd eraill
Datblygiad, strwythur a swyddogaeth cadeiriau, trin cyfansoddiad llaeth
Bridio gwartheg godro
Magu heffrod a ffrwythlondeb y fuches
Iechyd gwartheg godro yn cynnwys anwylderau metabolig, cloffni, TB, Clwy'r Traed a'r Genau a Thafod Glas
Systemau cynhyrchu ar gyfer defaid mynydd, tiroedd uchel a thiroedd isel
Rheoli atgynhyrchu'r famog a'r hwrdd
Bridio defaid
Strategaethau bwydo'r famog yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod llaetha
Iechyd y famog feichiog a'r famog sy'n llaetha ac 'rn sy'n tyfu
Systemau cynhyrchu lloi sugno, strategaethau bwydo a rheoli atgynhyrchu
Magu lloi
Systemau cynhyrchu cig eidion llaeth dwys, lled ddwys a helaeth
Systemau cynhyrchu moch
Rheoli'r hwch gyfnewid
Strategaethau bwydo ar gyfer perfformiad oes gorau'r hwch sy'n bridio
Rheoli'r hwch drwy'r cyfnod bridio, beichiogrwydd, esgor, llaetha a'r cyfnod sych.
Rheoli'r mochyn newyddanedig, wedi'i ddiddyfnu, sy'n tyfu ac sy'n gorffen.
Iechyd a lles moch.
Sicrhau'r ansawdd cynnyrch gorau.
Cynlluniau yswiriant ffermydd a'u lles.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn yr aseiniad yn cynnwys cyfathrebu drwy eiriau, tablau a diagramau. Asesir drwy'r aseiniad a'r arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes ffermio a'r diwydiannau sy'n cefnogi'r maes hwn a datblygiad sgiliau perthnasol.
Datrys Problemau Dangosir yn y darlithoedd a'r dosbarthiadau ymarferol sut y caiff problemau wrth ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid eu hadnabod a'u datrys. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau drwy'r aseiniadau. Asesir drwy aseiniad.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy oresgyn heriau i ddysgu a deall a godir yn yr aseiniadau. Trwy astudio hunangyfeiriedig a defnyddio deunyddiau e-ddysgu.
Rhifedd Dadansoddi a dehongli cyfresi data aseiniad. Dehongli ymchwil a gyhoeddwyd. Asesir yn yr asesiniadau.
Sgiliau ymchwil Bydd darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol ac aseiniadau yn datblygu ymwybyddiaeth o ddehongli a chymhwyso ymchwil i ddatblygu a gwella systemau cynhyrchu anifeiliaid. Asesir yn yr aseiniad a'r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio prosesyddion geiriau a thaenlenni wrth baratoi aseiniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5