| Cod y Modiwl | DA10210 | ||
| Teitl y Modiwl | CEFN GWLAD A'I PHOBL | ||
| Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Rhys Jones | ||
| Semester | Semester 2 | ||
| Rhagofynion | Fel arfer, Daearyddiaeth Safon Uwch/Safon Uwch Atodol | ||
| Elfennau Anghymharus | GG10210 | ||
| Manylion y cyrsiau | Darlith | 20 Awr | |
| Dulliau Asesu | Arholiad | 2 Awr | 80% |
| Traethawd | 20% | ||
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yma yw cyflwyno myfyrwyr i ddaearyddiaeth wledig trwy gyfrwng arolwg eang o faterion sydd yn ymwneud a phobl a chefn gwlad. Bydd y modiwl yn caniatau myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o gefn gwlad fel amgylchfyd cymhleth a deinamig, gan ddefnyddio ymdriniaethau damcaniaethol ac empirig. Cyflwynir myfyrwyr i nifer o ffynonellau a dulliau ar gyfer astudio ardaloedd gwledig o bersbectif daearyddol.