Cod y Modiwl DD10320  
Teitl y Modiwl PERFFORMIO Y CYNHYRCHIAD FEL DIGWYDDIAD THEATRAIDD 1  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Lisa Lewis  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Y Athro Mike Pearson  
Rhagofynion DD10120  
Manylion y cyrsiau Darlith   20 Awr  
    10 Awr 10 x 2 awr  
Dulliau Asesu Aseiniad   Aseiniad ysgrifenedig x 2 (2,000 o eiriau yr un)   60%  
  Gwaith ymarferol   Gwaith ymarferol   40%  

Disgrifiad cryno
Archwilio'r cysyniad o'r weithred theatraidd a'r perfformiad yn ei ystyr ehangaf. Gwneir hyn trwy ystyried y methodolgeau sydd ar gael ar gyfer diffinio'r 'digwyddiad theatraidd' yn ei holl amlygiadau.

Yn Semester 1 cynigir gorolwg o waith ymarferwyr o'r ugeinfed ganrif, yn y gorllewin gan fwyaf, gan archwilio'r berthynas rhwng elfennau sy'n hanfodl i'r digwyddiad theatraidd, megis gofod, perfformwyr a chynulleidfa. Ystyrir y berthynas rhwng y testun dramataidd a'r theatr trwy ddadansoddi elfennau neilltuol o waith cynhyrchu, ac asesir y cysyniad o destun theatraidd yn gyffredinol.

Yn Semester 2 archwilir y cysyniad o berfformio yn gyffredinol, gan olrhain ei ymddangosiad mewn sefyllfaoedd a lleoliadau amrywiol. Trafordir traddodiad perfformio'r Dwyrain, yn ogystal ag enghreifftiau o theatr gyfredol yn y Gorllewin. Edrychir ar befformio yn ei ystyr ehangach gan asesu'r amlygiad ohono mewn cy-destunau y tu allan i'r theatr gyfundrefnol, brif-ffrwd.

Bydd ymweliadau a'r theatr yn ffurfio cefndir i drafodaeth nifer o ddarlithoedd. Bydd rhan o raglen Cynhadledd Meistri'r Gorffennol a lwyfannir gan y Ganolfan Ymchwil i Beffformio yn hanfodol i'r modiwl a bydd cost resymol am y digwyddiad hwn.