Cod y Modiwl GW10810  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I ASTUDIAETHAU STRATEGOL  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Y Athro Colin McInnes  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Nicholas Wheeler, Dr Mike Williams, Tarak Barkawi  
Elfennau Anghymharus IP10810  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr Nifer y seminarau 5 x 1 (Yn Gymraeg)  
  Darlith   18 Awr Nifer y darlithiau 18 x 1 (Yn Saesneg)  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr Arholiad 2 awr   70%  
  Traethawd   Traethawd 2,000 o eiriau.   30%  

Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno i fyfyrwyr rai o'r prif ystyriaethau, damcaniaethau a dadleuon yn Astudiaethau
Strategol. Mae a wnelo Astudiaethau Strategol a chyfraniad grym milwrol mewn cysylltiadau rhyngwladol a'r modd y'i
defnyddir. Mae'r modiwl yn canolbwyntio'n benodol ar bum brif bwnc o bwys: natur rhyfel, heddwch a diogelwch; strategaeth
niwclear a rheoli arfau niwclear, gan gynnwys dyfodol arfau niwclear a pherygl amlhau arfau niwclear; rhyfel confensiynol, a
rhyfel y Gwlff 1991 yn benodol a'r 'rhyfel seiberneteg'; rhyfel chwyldroadol-gerila a therfysgaeth; a materion newydd mewn
strategaeth gan gynnwys ymyrraeth ddyngarol ac Gweithgareddau cynnal heddwch.

Nod y modiwl
Cynnig ichi gyflwyniad i'r prif ystyriaethau a rhai o'r dadleuon a'r damcaniaethau mewn Astudiaethau Strategol.

Amcanion
Erbyn diwedd y modiwl dylech fedru:

- trafod cyfraniad grym milwrol mewn cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys natur rhyfel, hedwch a diogelwch;
- amlinellu effaith arfau niwclear ar strategaeth a damcaniaethau ataliaeth niwclear a rheoli arfau niwclear;
- asesu'r strategaethau a ddefnyddiwyd yn Rhyfel y Gwlff ym 1991 ac effaith bosibl 'seiber-dechnoleg' ar strategaeth;
- trafod damcaniaethau rhyfel chwyldroadol-gerila a therfysgaeth;
- dangos ymwybyddiaeth o rai o'r materion newydd mewn astudiaethau strategol.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
B Buzan & E Herring. The Arms Dynamic in World Politics (1998).
K Booth. New thinking About Strategy and International Secrutiy (1991).
L Freedman. War.
D Smith. The State of War and Peace Atlas 1997.