Cod y Modiwl GW10910  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL Y TRYDYDD BYD  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rita Abrahamsen  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus IP10910  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr Nifer y darlithiau - 18 x 1 awr (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr Nifer y seminarau - 5 x 1 awr (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr Arholiad 2 awr   70%  
  Traethawd   Traethawd 2,000 o eiriau.   30%  

Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i astudiaeth drefnus o wladwriaethau a chymdeithasau'r Trydydd Byd. Mae'n ymgais i
gyfuno dadansoddiad damcaniaethol ag ymchwiliad empeiraidd i faterion sydd fwyaf perthnasol i les dinasyddion y Trydydd
Byd. Mae gwladwriaethau'r Trydydd Byd yn chwilio am ryw gyfuniad o'r tri nod, sef datblygiad, diogelwch a chyfraniad.
Bydd y graddau y llwyddir i gyrraedd y tri nod hyn yn dibynnu ar hanes y wlad, ei hadnoddau a'i gwerthoedd, ac ar y
gyfundrefn ryngwladol lle y ceir gwledydd y Trydydd Byd.

Nod y modiwl
Prif amcan y modiwl hwn yw astudio'r amrywiaeth cymhleth o rymoedd gwladol a rhyngwladol sy'n pennu i ba raddau y mae
gwladwriaethau'r Trydydd Byd yn cyflawni eu hamcanion.

Amcanion
Ar ddiwedd y modiwl dylech fedru gwerthfawrogi

- Beth sy'n gyffredin ac yn wahanol ynglyn a'r Trydydd Byd
- Beth yw datblygiad economaidd a/neu wleidyddol
- Sut y mae grymoedd gwladol a rhyngwladol yn dylanwadu ar y canlyniadau
- A oes gan wladwriaethau'r Trydydd Byd rym yn y gyfundrefn ryngwladol, ac os oes, i ba raddau.

Elfennau Anghymharus - IP10910

Rhestr Ddarllen
Llyfr
N Adams. (Zed) Worlds Apart: The North South Divide and the International System.
M Ayoob. Third World Security Predicament. Rienner 1995
J Haynes. Third World Politics: A Concise Introduction. Blackwell 1996
A Dickson. Development and International Relations. Polity 1997