Cod y Modiwl | GW11210 | ||
Teitl y Modiwl | CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Richard Jones | ||
Semester | Semester 1 | ||
Elfennau Anghymharus | IP10210 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlith | 18 Awr Nifer y darlithiau (yn Gymraeg) - 18 | |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 Awr Nifer y seminarau (yn Gymraeg) - 5 | ||
Dulliau Asesu | Arholiad | 2 Awr Arholiad 2 awr | 70% |
Traethawd | Traethawd 1,500 o eiriau. | 30% |
Amcanion
Nod:
Ar ddiwedd y modiwl hwn, dylech fedru:
- dangos dealltwriaeth sylfaenol o waith dau feddyliwr gwleidyddol o leiaf.
- nodi ac asesu gwahanol ddehongliadau o rai syniadau allweddol mewn syniadaeth wleidyddol.
- disgrifio ac asesu'n feirniadol brif nodweddion o leiaf un ideoleg wleidyddol.
- mynegi gwybodaeth o'r fath mewn modd cydlynus a deallus.
Disgrifiad cryno
Pwy bynnag ydym, yn ddinasyddion cyffredin, neu ryw Tony Blair, Margaret Thatcher neu Fidel Castro, mae'r ffordd rydym yn deall y byd a sut rydym yn meddwl y dylai weithio yn ddelfrydol, yn arwain ein holl weithgareddau gwleidyddol. Mae'r modiwl hwn yn astudio rhai o'r syniadau allweddol sy'n sylfaen i benderfyniadau gwleidyddol ac sy'n cael effaith fawr ar ein bywyd ni i gyd.
Mae'r cwrs yn cychwyn trwy gyflwyno'r syniadau a gynigir gan amrediad mawr o feddylwyr gwleidyddol pwysig ac y mae eu lenyddiaeth yn ysbrydoliaeth i ddemocratiaeth ryddfrydol, comiwnyddiaeth a rhyddfreinio merched. Byddwch yn dysgu am Machiavelli, Rousseau, Marx a Mary Wollstonecraft ymhlith llawer eraill sydd wedi cael dylanwad ar wleidyddiaeth gyfoes. Mae'r ail ran yn ystyried rhai syniadau gwleidyddol allweddol; cydraddoldeb, rhyddid a chyfiawnder. Mae'r syniadau hyn wrth wraidd ffyrdd o drefnu bywyd gwleidyddol, yn enwedig mewn democratiaeth, ac maent yn dal i osod cwestiynau cymhleth ynghylch y ffordd orau o "gyflawni" gwleidyddiaeth a beth yw ystyr bod yn ddinesydd. Mae'r drydedd ran yn ystyried ideolegau gwleidyddol. Pan ddaw cyfres o syniadau yn gyfanwaith cydlynus, a phan fydd y ddamcaniaeth yn mynd yn gyfres o gynigion penodol, gallwn son am ideoleg. Mae'r ideolegau a astudiwn yn ganolog i'r ugeinfed ganrif ac yn wir i wleidyddiaeth yr unfed ganrif ar hugain; rhyddfrydiaeth, sosialaeth, ffeminyddiaeth, ceidwadaeth ac amgylcheddaeth. Yn gyffredinol mae'r modiwl yn cynnig sylfaen gadarn i astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol am ei fod yn astudio'r syniadau sy'n sylfaen i lywodraethau go iawn a'r freuddwyd am "well byd".
Nod y modiwl
Amcanion canolog y modiwl yw:
- cyflwyno i fyfyrwyr y meddylwyr pwysig, y syniadau allweddol a'r ideolegau gwleidyddol mwyaf dylanwadol mewn theori
wleidyddol ac athroniaeth.
- hyrwyddo'r modd mae myfyrwyr yn deall yr elfen syniadol sy'n treiddio trwy benderfyniadau gwleidyddol, cynllun sefydliadau a
llunio polisiau.
Rhestr Ddarllen
Llyfr
Andrew Vincent.
Modern Political Ideas.
Barbara Goodwin.
Using Political Ideas.
Iain Hampsher-Monk.
A History of Modern Political Thought.
Brian Redhead.
Political Thought from Plato to NATO.
David Thomson.
Political Ideas.