Cod y Modiwl | GW11710 | ||
Teitl y Modiwl | CYMRU YNG NGWLEIDYDDIAETH PRYDAIN | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mr Dafydd Trystan | ||
Semester | Semester 2 | ||
Elfennau Anghymharus | IP10710 | ||
Manylion y cyrsiau | Seminarau / Tiwtorialau | 5 Awr Nifer y Seminarau 5 x 1 awr (Yn Gymraeg) | |
Darlith | 18 Awr Nifer y darlithiau 18 x 1 awr (Yn Gymraeg) | ||
Dulliau Asesu | Arholiad | 2 Awr Arholiad 2 awr | 70% |
Traethawd | Traethawd 1,500 o eiriau. | 30% |
Disgrifiad cryno
Bydd y cwrs yn cynnig cyflwyniad cyffredinol i'r gyfundrefn wleidyddol ym Mhrydain gan roddi sylw arbennig i leoliad
Cymru oddi mewn i'r gyfundrefn honno. Bydd yn trafod:
(1) y gwahanol sefydliadau etholedig ac anetholedig sy'n ffurfio'r wladwriaeth, y gwahanol gysyniadau ac egwyddorion sy'n rheoli
eu hymddygiad, a'r modd y cynrychiolir ac yr ymdrinir a Chymru ganddynt;
(2) y pleidiau gwleidyddol a'u traddodiadau.
Nod y modiwl
Darparu cyflwyniad cyffredinol i drefn wleidyddol y wladwriaeth Brydeinig, gan roi sylw arbennig i leoliad Cymru oddi mewn i?r gyfundrefn honno.
Amcanion
Erbyn i fyfyrwyr gwblhau?r modiwl disgwylir iddynt feddu dealltwriaeth sylfaenol o?r canlynol:
- y sefydliadau sy?n ffurfio?r wladwriaeth Brydeinig a lle Cymru oddi mewn iddynt;
- cyd-berthynas y sefydliadau hyn, ac yn arbennig y berthynas rhwng sefydliadau ar y lefel Gymreig a sefydliadau ar y lefel Brydeinig;
- y dadleuon ynglyn a effeithiolrwydd datganoli i Gymru, a phloysigrwydd cyd-destun newydd gwleidyddiaeth Cymru;
- natur y pleidiau gwleidyddol sy?n ymgiprys am rym oddi mewn i?r gyfundrefn wleidyddol Brydeinig.
Elfennau Anghymharus - IP10710
Rhestr Ddarllen
Llyfr
B Taylor a K Thomson.
Scotland and Wales: Nations Again?. Gwasg Prifysgol Cymru 1999
J Davies.
Hanes Cymru (pendodau olaf). Penguin : 1990
A Birch.
British System of Government 10th ed.