Cod y Modiwl | GW19910 | ||
Teitl y Modiwl | TU OL I'R PENAWDAU: MATERION GWLEIDYDDOL BYD-EANG 2 | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Y Athro Mick Cox | ||
Semester | Semester 2 | ||
Elfennau Anghymharus | IP19910 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlith | 20 Awr 20 x Darlithiau 1 awr | |
gwaith grwp annibynnol | |||
Dulliau Asesu | Arholiad | 3 Awr 1 x arholiad 3 awr 'llyfr agored' | 50% |
Prosiect gr p | 1 x cofnod dadansoddol o waith y grwp 5,000 o eiriau | 50% |
Disgrifiad cryno
Estyniad o fodiwl IP19810. Fe fydd yn canolbwyntio ar bethau y byddwch o bosibl yn eu gwybod eisoes (y 'penawdau') ac yna'n adeiladu ar hynny (trwy edrych y 'tu ol' i'r penawdau). Byddwn yn ystyried, ar wahanol lefelau, cyfres o faterion cyfoes pwysig yng ngwleidyddiaeth y byd - o gyflwr y byd i wleidyddiaeth fyd-eang - gan geisio egluro pam eu bod mor bwysig, beth yw'r prif ddeinameg sy'n eu gyrru, a beth yw eu hoblygiadau. Gwneir hyn trwy amryw ddulliau dysgu gwahanol: darlithoedd traddodiadol, deunydd fideo, byrddau crwn, a thrafodaethau. Byddwn hefyd yn defnyddio nifer o ddulliau eraill an-nhraddodiadol, megis grwpiau bach annibynnol, arholiad llyfr agored, a chofnodi gwaith prosiect. Ymhlith y penawdau a ystyrir yn y modiwl hwn - ynghyd a IP19810 - fydd rhai sy'n gysylltiedig a'r datblygiadau diweddaraf mewn ymyrraeth ddyngarol, yr economi byd-eang, datblygiadau yn yr Unol Daleithiau a Rwsia, rhyfela, dyfodol Ewrop, datganoli ym Mhrydain, gwarchod hawliau dynol, y fasnach gyffuriau ryngwladol, ac y.y.b. Yn ogystal ag edrych y tu ol i?' penawdau, bydd y modiwl hefyd yn cyflwyno sgiliau astudio sy'n hanfodol i holl fodiwlau'r Adran.
Nod
Mae i'r modiwl ddau nod canolog. Y cyntaf yw cyflwyno dadansoddiad beirniadol o nifer o faterion gwleidyddol y byd. Yr ail yw cyflwyno sgiliau astudio a rhoi cyfle i'w defnyddio mewn amryw sefyllfaoedd wrth ddysgu.
Amcanion
Ar ol cwblhau?r modiwl, dylai myfyrwyr fod yn gallu