Cod y Modiwl | GW36820 | ||
Teitl y Modiwl | DULLIAU YMCHWIL A DAMCANIAETH GYMDEITHASOL | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Colin Wight | ||
Semester | Semester 2 | ||
Cyd-Ofynion | IP36720 , IP37720 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlith | 19 Awr 19 x 1 awr | |
Dulliau Asesu | Traethawd | 1 traethawd (3,000 o eiriau) | 50% |
Traethawd | 1 amlinelliad o'r traethawd estynedig (2-3,000 o eiriau) | 50% |
Disgrifiad cyffredinol
Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o ddulliau ymchwil a theori gymdeithasol, a meithrin eu sgiliau er mwyn ymchwilio ar gyfer y traethawd estynedig gorfodol a'i ysgrifennu'n llwyddiannus. Trwy gysylltu'r dulliau hyn a dadleuon mewn theori gymdeithasol mae modd i fyfyrwyr ddeall sut mae ymchwil wedi ei gwreiddio mewn damcaniaethau cymdeithasol penodol gan ystyried cryfderau a gwendidau dulliau penodol o ymchwilio. Mae'r modiwl yn cynnwys sesiynau ar theori gymdeithasol, cysyniadau sylfaenol mewn cymdeithaseg, cynllunio ymchwil, llunio testun, ffynonellau ymchwil, dulliau cyflwyno a dulliau ymchwil. Yn ystod y modiwl dynodir arolygwyr traethawd i fyfyrwyr, a byddant yn cael y cyfle i drafod pwnc eu traethawd gyda hwy.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr yr ail flwyddyn ddealltwriaeth sylfaenol o ddulliau ymchwil ac o'r gwyddorau cymdeithasol, a'u rhoi ar ben ffordd yn gynnar wrth ysgrifennu eu traethawd estynedig.
Disgrifiad cryno
Ar ddiwedd y modiwl dylai myfyrwyr fedru:
10 credydau ECTS
Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
G Delanty.
Social Science: Beyond Constructivism and Realism.
T May.
Social Research: Issues Methods and Process.