Cod y Modiwl HA39130  
Teitl y Modiwl GWLADWRIAETH A CHYMDEITHAS YN YR UNDEB SOFIETAIDD 1917-1991  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Gareth Popkins  
Semester Intended For Use In Future Years  
Next year offered N/A  
Next semester offered N/A  
Elfennau Anghymharus HY38030  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   3 Awr   60%  
  Traethawd   2 traethawd (1 x 4,000 o eiriau, x 2,500 o eiriau)   40%  

Disgrifiad cryno
Roedd dyfodiad yr Undeb Sofietaidd a'i dranc yn ddigwyddiadau tyngedfennol fel ei gilydd a hynny'n fyd eang. Buont yn destunau dadleuon dwys o'r tu allan erioed ond dim ond nawr, wedi i'r wladwriaeth ddiflannu ac agor yr archifdal y ceir cyfle i anelu at ddealltwriaeth wrthrychol o ddigwyddiadau aruthrol fel y rhyfel cartref, cyfunoli amaethyddiaeth, carthion gwleidyddol Stalin a'r "Braw" a rol Yr Undeb cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyma rai o bynciau'r cwrs hwn, fydd nid yn unig yn olrhain prif ddatblygiadau gwleidyddol y cyfnod ond yn eu cysylltu a datblygiadau cymdeaithasol, gan gynnwys tyfiant haenen gymdeithasol sylweddol wedi'i haddysgu, a'r mudiadau cenedlaethol sydd mor bwysig i ddealltwriaeth o adeg perestroica a glasnost.