Cod y Modiwl HC33230  
Teitl y Modiwl CYMDEITHAS A DIWYLLIANT CYMRU 1660-1800  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Eryn White  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus WH33230  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr  
  Seminar   10 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   3 Awr   60%  
  Traethawd   2 traethawd (1 x 4,000 o eiriau, 1 x 2,500 o eiriau)   40%  

Disgrifiad o'r modiwl
Awgrymid mai dyma'r cyfnod pan osodwyd y sylfeini ar gyfer y Gymru fodern. Amcan y modiwl hwn yw astudio'r newidiadau a'r datblygiadau a gyfrannodd at y broses hon. Profodd y ddeunawfed ganrif gyfres o ddiwygiadau mewn addysg, crefydd, diwylliant a hunaniaeth genedlaethol, ynghyd a thwf yr haenau canol a dechreuadau radicaliaeth wleidyddol. Ceisir hefyd asesu dylanwad rhai unigolion blaenllaw wrth lunio hunaniaeth y Cymry. Y mae gwahanol haneswyr wedi cyfeirio at Griffith Jones, Howel Harris a Iolo Morganwg fel 'Cymro mwyaf ei oes'. Ond pa un ohonynt mewn gwirionedd a gafodd yr effaith mwyaf dwfn a pharhaol ar gymdeithas a diwylliant Cymru?

Canlyniadau dysgu
Ar gwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr fedru dangos dealltwriaeth o natur a strwythur y gymdeithas yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd a dylanwad twf llythrennedd, y Diwygiad Methodistaidd ac adfywiad diwylliannol y ddeunawfed ganrif a sut yr effeithiodd y datblygiadau hyn ar iaith a hunaniaeth y Cymry.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
G.H. Jenkins. (1983) Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar.
Prys Morgan. (1981) The Eighteenth Century Renaissance.