Cod y Modiwl HC34130  
Teitl y Modiwl CYMDEITHAS CYMRU FODERN 1868-1950  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Paul O'Leary  
Semester Intended For Use In Future Years  
Next year offered N/A  
Next semester offered N/A  
Elfennau Anghymharus WH34130  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   3 Awr   60%  
  Traethawd   2 traethawd (1x 4,000 o eiriau, 1 x 2,500 o eiriau)   40%  

Canlyniadau dysgu
Bydd myfyrwyr yn meddu ar:

- gorff o wybodaeth hanesyddol ar strwythur y gymdeithas yng Nghymru rhwng 1868 a 1950, ynghyd a thueddiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y cyfnod hwnnw.
- ddealltwriaeth o amrywiaeth o ddehongliadau o'r gymdeithas yng Nghymru.
- y gallu i ddarllen, dadansoddi a myfyfrio'n feirniadol ar destunau hanesyddol detholedig.
- y gallu i ddatblygu a chynnal dadleuon hanesyddol.
- y gallu i hel ac ystyried darnau priodol o dystiolaeth hanesyddol.
- y gallu i weithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, ac i gyfranogi mewn trafodaethau grwp.

Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw olrhain y prif newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yng Nghymru oddi ar 1868. Ymhlith y themau a drafodir fydd goruchafiaeth a dirywiad y Gymru ymneilltuol Ryddfrydol; effaith dau Ryfel Byd ar y gymdeithas a'r newidiadau a achoswyd gan y Dirgwasgiad rhwng y rhyfeloedd; goruchafiaeth y Blaid Lafur ac ail-lunio'r economi oddi ar 1945.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
John Davies. (1990) Hanes Cymru.
K O Morgan. (1981) Rebirth of a Nation: Wales 1880-1980.