Cod y Modiwl HC34230  
Teitl y Modiwl HUNANIAETHAU CENEDLAETHOL YN YNYSOEDD PRYDAIN 1801-1914  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Paul O'Leary  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus CF34220 , MW34220 , WH34230  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   3 Awr   60%  
  Traethawd   2 traethawd (1 x 4,000 o eiriau, 1 x 2,500 o eiriau)   40%  

Disgrifiad o'r modiwl
Nod y modiwl hwn yw archwilio datblygiad hunaniaethau cenedlaethol yn Ynysoedd Prydain wedi'r Uno rhwng Prydain ac Iwerddon yn 1801. Ymdrinir a themau penodol yng ngoleuni gwaith damcaniaethol ar genhedloedd fel 'cymunedau'r dychymyg'. Ymhlith y themau dan ystyriaeth fydd: y modd y crewyd hunaniaeth Brydeinig a'r tyndra rhyngddi ag hunaniaethau cenedlaethol eraill; dyfeisio 'traddodiadau' newydd; rhyfel ac imperialaeth boblogaidd; agweddau tuag at leiafrifoedd a gender; ac hunaniaeth genedlaethol mewn perthynas a gweithgareddau hamdden, megis chwaraeon. Trafodir yn ogystal y drafodaeth ddiweddar ar natur 'hanes Prydain'.

Canlyniadau dysgu
Bydd myfyrwyr yn meddu ar:

- gorff o wybodaeth hanesyddol ym maes hunaniaethau cenedlaethol yn Ynysoedd Prydain yn dilyn y Ddeddf Uno rhwng Prydain ac Iwerddon ym 1800 tan y Rhyfel Byd Cyntaf.
- ddealltwriaeth o amrywiaeth o ddehongliadau o hunanaieth genedlaethol, yn canolbwyntio'n arbennig ar ddyfeisio Prydeindod a'r hunaniaethau cenedlaethol eraill Ynysoedd Prydain yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
- y gallu i ddarllen, dadansoddi a myfyfrio'n feirniadol ar destunau hanesyddol detholedig.
- y gallu i ddatblygu a chynnal dadleuon hanesyddol.
- y gallu i hel ac ystyried darnau priodol o dystiolaeth hanesyddol.
- y gallu i weithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, ac i gyfranogi mewn trafodaethau grwp.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
Linda Colley. Britons: Forging the Nation 1707-1837.
Keith Robbins. Nineteenth Century Britain.