Cod y Modiwl CY10810  
Teitl y Modiwl SEMINARAU IAITH 2 (AIL IAITH)  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mrs Felicity Roberts, Dr Huw Edwards, Mr Mihangel Morgan  
Rhagofynion Cymraeg (Ail Iaith) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Cyd-Ofynion CY10510 I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yny Gymraeg: CY10610, CY10710, CY12220, i'r rhai na fyn hynny: CY10710  
Elfennau Anghymharus CY10110 , CY10210 , CY10310 , CY10410  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   18 Awr  
Dulliau Asesu Asesiad diwedd semester     20%  
  Arholiad   2 Awr   80%  

Disgrifiad cryno


Trafodaethau ar deithi'r iaith a chyflwyniad i'r defnydd ohoni.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn:


1. Byddwch yn deall sut y mae llunio cymalau adferfol yn gywir.


2. Byddwch yn deall sut y mae defnyddio rhagenwau personol yn gywir, rhai blaen, rhai ôl, a rhai mewnol.


3. Byddwch yn deall sut y mae llunio ffurf fenywaidd unigol yr ansoddair a ffurf luosog yr ansoddair yn gywir.


4. Byddwch yn deall sut mae llunio a defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair yn gywir.


5. Byddwch yn gallu ysgrifennu'n hyderus yn y cywair llenyddol.