Cod y Modiwl DA22110  
Teitl y Modiwl MODIWL TIWTORIAL DAEARYDDIAETH LEFEL 2  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys Jones  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Aled Rowlands  
Cyd-Ofynion Daearyddiaeth Anrhydedd Sengl neu Gyfun fel arfer  
Elfennau Anghymharus GG22110  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 (bob yn ail wythnos dros y ddau semester)  
Dulliau Asesu Gwaith cwrs   Seiliwyd y dull asesu ar system raeadru y Coleg a ddefnyddir i bennuch gradd. Rhoddir pwysiad credyd o l i bob aseiniad, ar wahan ir papur ymchwil Anrhydedd Cyfun sydd a phwysiad credyd o 2, ac a fydd felly yn cael ei osod i mewn ddwy waith. Caiff eich marc cyfan felly ei gyfrif yn unol ar fformiwla canlynol:- (Dau farc uchaf x 3) + (Dau farc nesaf x 2) + (Dau farc isaf x 1) wedi eu rhannu a 12. Dylai myfyrwyr nodi bod mynychu dosbarthiadau tiwtorial yn orfodol, yn ogystal a chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cau a osodir gan y tiwtor. Dylid cytuno ymlaen llaw gydar tiwtor ar unrhyw absenoldeb, a dylid rhoi gwybod iddo/iddi yn syth am unrhyw salwch. Daw trefn ddisgyblu i rym am absenoldeb nad ywn cael ei egluro. Bydd cyflwyno aseiniadau yn hwyr heb achos da ac heb ganiatad y tiwtor ymlaen llaw yn dwyn yn ei sgil gosbau fel a nodir ar dudalen 4.   100%  
  Asesiad ailsefyll   Bydd myfyrwyr syn methur modiwl fel arfer yn cael ailsefyll, ac felly bydd yn rhaid ail-gyflwyno aseseiniadau a fethwyd a chyflwyno unrhyw aseniadau na chyflwynwyd. Bydd marciau am yr aseiniadau a aseswyd eisoes, syn 35% neu fwy, yn cael eu cario ymlaen. Os na fydd amgylchiadau arbennig (e.e. salwch), y marc mwyaf y gellir ei gael ar aseiniadau a gyflwynir iw ailsefyll fydd 35%.    

Amlinelliad o'r modiwl


Mae'r modiwl tiwtorial Lefel 2 yn orfodol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn sy'n gwneud cynlluniau gradd Anrhydedd Sengl a Chyfun mewn Daearyddiaeth. Ni all myfyrwyr eraill ei gymryd ond trwy drefniant arbennig gyda Chydgysylltydd y Modiwl. Y mae'n fodiwl sy'n darparu sail i gyswllt arolygol clos a rheolaidd rhwng myfyrwyr a staff trwy gydol y flwyddyn.


Y mae iddo dri nod penodol. Yn gyntaf, gan ei fod yn ffynhonnell cyswllt clos, fe fydd yn ymdrin a phroblemau cyffredinol bugeiliol ac academaidd sy'n wynebu'r myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, cynlluniwyd pob Modiwl Tiwtorial Daearyddiaeth yn ol maes llafur academaidd annibynnol. Yn Lefel 2 bydd hyn yn canolbwyntio ar theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar feysydd trafod cyfoes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Daearyddiaeth Ddynol. Yn drydydd, bydd yn ymwneud a maes llafur ddiffiniedig o sgiliau astudio, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin yn fwy effeithol a gofynion astudiaeth academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, ac yn eu galluogi i fanteisio yn llawnach ar y posibiliadau a gynigir gan ein rhaglen.


GWAITH CWRS ACADEMAIDD


Bydd gwaith y cwrs academaidd ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a theori Daearyddiaeth a Daearyddiaethymarferol, yn ogystal a meysydd trafod cyfoes o fewn i'r pwnc. Yn y naill achos a'r llall, bydd y dosbarthiadau tiwtorial yndatblygu'r themau hyn o fewn i gyd-destun Daearyddiaeth Ffisegol neu Ddaearyddiaeth Ddynol, fel sy'n briodol i'r grwptiwtorial. Caiff y gwaith ei ddatblygu trwy gyfrwng trafodaeth a thraethodau tiwtorial, fel a nodir isod.


SGILIAU ASTUDIO
Bydd y sgiliau astudio a gynhwysir ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a'r canlynol:


Bydd y sgiliau astudio hyn yn cael eu datblygu trwy gyfrwng gwaith prosiect, fel a nodir isod.


RHAGLEN MODIWL
Yn ystod y semester cyntaf, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar sgiliau astudio hanfodol ac ar natur trafodaeth
ddaearyddol. Seilir yr asesiad ar dri darn o waith i'w gyflwyno. Bydd rhain yn cynnwys.


Yn ystod yr ail semester, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar drafod theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar baratoi am astudiaeth ddaearyddol annibynnol. Pwysleisir y berthynas sydd rhwng y ddau gynllun yma. Anogir y myfyrwyr hefyd i weld arwyddocad y cyswllt sydd rhwng eu hymchwil annibynnol eu hunain a chyrsiau eraill mewn daearyddiaeth, yn enwedig felly gynnwys cyrsiau ymarferol y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn. Bydd llyfryn ynglyn a pharatoi astudiaeth ddaearyddol annibynnol ar gael i fyfyrwyr.


I fyfyrwyr anrhydedd sengl, bwriedir i'r semester roi cymorth uniongyrchol ar gyfer paratoi traethawd hir. Byddant yn paratoi i'w hasesu dri papur cefndirol o 1800 o eiriau ar y mwyaf. Nid tiwtor y modiwl o angenrheidrwydd fydd arolygydd y traethawd a rhagwelir na fydd trafodaeth gyda'r tiwtor yn digwydd tan yn nes at ddiwedd y modiwl. Bydd yr hyn a gynhwysir yn y tri phapur cefndirol fel a ganlyn:


1. Methodoleg ymchwil. Arolwg trosfwaol o'r methodolegu a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn daearyddiaeth ddynol neu ffisegol. Anogir myfyrwyr i fynegi bod yn well ganddynt un fethodoleg yn fwy na'r lleill. Gall hyn wedyn o bosibl ddarparu'r seiliau methodolegol ar gyfer gwaith traethawd.


2. Amgyffred problemau. Gofynnir i'r myfyrwyr amgyffred yn annibynnol dair problem ymchwil ar wahan wedi eu tynnu o dair cangen wahanol mewn daearyddiaeth. Gofynnir wedyn i'r myfyrwyr gyflwyno crynodeb ac arolwg o'r llenyddiaeth academaidd sydd ar gael ar y problemau penodol, ac i ddweud sut y byddent yn disgwyl i'w hastudiaethau eu hunain ehangu'r llenyddiaeth honno. Bydd angen iddynt hefyd arolygu'r ffynonellau tystiolaeth sy'n debygol o gael eu defnyddio.


3. Traethawd hir cyd-destunol. Bydd y myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd cyd-destunol cefndirol ar y pwnc a ddewiswyd ar gyfer y traethawd hir. Byddai hyn yn cynnwys ystyriaethau methodolegol ac yn ymestyn a dyfnhau'r crynodeb a'r arolwg a weithredir fel a nodir yn 2. Gellir dewis pwnc hollol newydd os nad yw'r myfyrwyr yn awyddus i ddilyn trywydd unrhyw un o'r tair problem a nodwyd yn wreiddiol. Trafodir drafft o'r traethawd hwn gyda'r arolygydd tebygol, a chytunir ar deitl. Caiff y traethawd ei farcio gan diwtor y myfyriwr/myfyrwraig yn y ffordd arferol. Rhagwelir mai drafft, wedi ei adolygu ymhellach, o'r traethawd yma fydd pennod agoriadol y traethawd hir terfynol.


Ar gyfer myfyrwyr anrhydedd cyfun na fyddant yn cyflwyno traethawd hir Daearyddiaeth yn y drydedd flwyddyn, bydd y rhan hon o'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i fethodoleg ymchwil daearyddol a gwaith ymarferol, a bydd hefyd yn gyfle i wneud ei prosiect ymchwil eu hunain yn rhan o'r modiwl tiwtorial. Y gwaith i'w asesu a fydd yn deillio o hyn fydd un papur cefndirol o 1800 o eiriau ar y mwyaf. Bydd y papur hwn yn gyfuniad o drafodaeth ar fethodoleg ac amgyffred problem, a fydd yn ei hanfod yn cynnwys yr un tir a phapurau cefndirol 1 a 2 anrhydedd sengl. Bydd myfyrwyr wedyn yn paratoi papur ymchwil o 3000 o eiriau ar y mwyaf. Bydd hyn yn wahanol i'r traethawd hir, gan y bydd yn dderbyniol i ddefnyddio deunydd cyhoeddedig yn hytrach na deunydd maes neu ddeunydd archifol. Gall yr astudiaeth fod yn genedlaethol neu hyd yn oed yn fyd-eang ei natur, ac ni fydd o angenrheidrwydd yn cynnwys astudiaeth leol. Dylai geisio 'ychwanegu gwerth' i'r llenyddiaeth gyhoeddedig sydd eisoes ar gael, a fydd yn cael ei adolygu yn yr adrannau cychwynnol.

Canlyniadau dysgu

Rhestr Ddarllen

Llyfr
R H Haines-Young a J R Petch. (1986) Physical Geography: Its Nature and Methods.
P Cloke, C Philo & D Sadler. (1991) Approaches to Human Geography. An Introduction to Contemporary Debates.