Cod y Modiwl | DD10320 | ||
Teitl y Modiwl | EGWYDDORION PERFFORMIO | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | To Be Arranged | ||
Semester | Semester 1 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Mike Pearson, Dr Roger Owen | ||
Cyd-Ofynion | DD10520 | ||
Manylion y cyrsiau | Sesiwn Ymarferol | 40 Awr 2 ddosbarth ymarferol 2 awr bob wythnos | |
Seminarau | 2 Awr | ||
Dulliau Asesu | Adroddiad sector gr p | Cyfraniad ac ymroddiad yn y dosbarthiadau | 40% |
Traethodau | Llyfyr nodiadau | 60% |
Nod yr Adran wrth gyflwyno?r modiwl hwn yw:
cyflwyno ffyrdd o archwilio perfformio ac ymddygiadau perfformiadol yng Nghymru mewn perthynas a thraddodiadau a dylanwadau o Ewrop a thu hwnt
hyrwyddo cydnabyddiaeth myfyrwyr o?r amryfal gyd-destunau cymdeithasol y mae perfformio yn cael ei amlygu ynddynt, ac archwilio?r cyfryw gyd-destunnau
darparu sylfaen ymarferol ar gyfer archwilio perfformio ac ymddygiadau perfformiadol yn y cyd-destun Cymreig
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyrwyr fedru:
cyfrannu'n effeithiol mewn gwaith byrfyfyr
trefnu eu perfformiad eu hunain mewn grwpiau ac yn unigol
cofnodi eu hymwneud mewn gwaith ymarferol drwy ddogfennu?r prosesau a ddilynwyd yn effeithiol
mynegi ymwybyddiaeth o?r ffaith fod cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol yn gadael ei effaith ar ffurf a swyddogaeth gwahanol fathau o berfformio
Cynnwys:
Fe fydd y modiwl yn cynnig archwiliad ymarferol o agweddau ar berfformio yn y diwylliant Cymreig a thu hwnt fel modelau ar gyfer cyflwyno rhai o brif sgiliau gweithio'n ymarferol, megis ymwybyddiaeth gorfforol, y gallu i weithio'n greadigol mewn grwp, mewn deuoedd ac yn unigol, y gallu i greu gwaith yn fyrfyfyr ac i gyflwyno gwaith o flaen cynulleidfa.
Disgwylir i lyfr nodiadiau`r myfyrwyr adlweyrchu`r ffaith iddynt fyfyrio`n eang ynghylch eu gwaith ymarferol gan gydbwyso`r gwaith a gyflawnwyd ganddyny yn gorfforol gyda`r cyd-destun cysyniadol a drafodwyd yn gyffredinol yn ystod y dosbarthiadau. Adlewyrchir pwysigrwydd hyn yn yr asesiad o`r llyfr nodiadau.