Cod y Modiwl | DD31620 | ||
Teitl y Modiwl | PERFFORMIO 1 | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mr Graham Laker | ||
Semester | Semester 1 | ||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
Cyd-Ofynion | DD21520 | ||
Manylion y cyrsiau | Seminarau / Tiwtorialau | 8 Awr | |
Sesiwn Ymarferol | 8 Awr 8 x 2 awr + tua 120 awr cyswllt | ||
Dulliau Asesu | Adroddiad Ymarferol | Cyfraniad ir broses ymarfer (yn cynnwys nodiadau gweithdy) | 70% |
Asesu perfformiad | Cyfraniad ir broses ymarfer a pherfformio | 30% |
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gyflwyno cynhyrchiad theatraidd gerbron cynulleidfa guhoeddus. Pwsyleisir cydweithrediad grwp yn y modiwl hwn, a chyflwynir technegau neilltuol yn ymwneud a chyd-gyflwyno gwaith ymarferol. Disgwylir ii fyfyrwyr gymryd y cyfrifoldeb dros eu gwaith creadigol eu hunain, gan fod yn atebol i aelodau eraill y grwp creu a chyd-drafod eu gwaith yn fanwl. Yn yr wyth seiswn dwy awr wythnosol, byddwch yn ymchwilio i`r technegau a`r methodolegau a ddefnyddir yn y cynhyrchaid ac yn datblygu`r technegau hynny.
Prif Nodau`r Cwrs:
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- deall gofynion y gwaith ymarferol
- cymhwyso a datblygu`r gofynion hynny wrth berfformio`n gyhoeddus
- creu rol i chi eich hunan o fewn grwp er less y cynhyrchiad
Allbynnau Dysg
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraif sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- cydweithio fel aeold o grwp creadigol
- meithrin sgiliau penodol yn ol gofynion y cynhyrchaid
- ymateb yn greadigol a chadarnhaol i gyfarwyddyd ymarferol