Cod y Modiwl GC22120  
Teitl y Modiwl GWYDDELEG MODERN (IAITH A LLEN) 1+2  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr William Mahon  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion Gwyddeleg Modern Lefel 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   44 Awr  
Dulliau Asesu Adroddiad sector gr p     20%  
  Traethodau   ymarferion   10%  
  Arholiad   2 Awr Arholiad Ysgrifenedig   70%  

Disgrifiad cryno


Dosbarthiadau ieithyddol. Gramadeg yr Wyddeleg. Cyfieithu o'r Wyddeleg i'r Gymraeg a Chymraeg i'r Wyddeleg. Darllen a dehongli rhai o destunau llenyddol yr 20fed ganrif: barddoniaeth, storiau byrion. Hefyd astudiaeth o Hanes Llenyddiaeth Wyddeleg o 1600 hyd heddiw; a detholion o'r llenyddiaeth honno.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn yn llwyddiannus:


1. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs estynedig yn yr Wyddeleg.


2. Bydd gennych wybodaeth ddigonol o ramadeg sylfaenol yr iaith, gan gynnwys ffurfiau amhersonol y ferf, y modd dibynnol, ffurfiau genidol yr enw, cymalau perthnasol, araith anuniongyrchol, ac amryw gystrawennau copiwla.


3. Byddwch yn gallu dirnad darlithiau syml yn yr Wyddeleg.


4. Byddwch yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau syml yn yr Wyddeleg.


5. Byddwch yn gallu ysgrifennu traethodau syml yn yr Wyddeleg.


6. Byddwch wedi darllen detholiadau o lenyddiaeth lafar y Gaeltacht ac o ryddiaith fodern.


7. Byddwch yn gallu trafod cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun llenyddol y detholiadau darllen hwn.