| Cod y Modiwl | GW10310 | 
| Teitl y Modiwl | GWLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL 2: YR YMRAFAEL RHWNG SAFBWYNTIAU | 
| Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | 
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Jenny Edkins | 
| Semester | Semester 2 | 
| Elfennau Anghymharus | IP10310 | 
| Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 18 Awr Nifer y darlithiau (yn Saesneg) | 
|  | Seminarau / Tiwtorialau | 5 Awr Nifer y darlithiau (yn Gymraeg) | 
| Dulliau Asesu | Traethodau | 1,500 o eiriau. | 30% | 
|  | Arholiad | 2 Awr | 70% | 
Amcanion
Ar ddiwedd y modiwl dylech fedru cymharu a chyferbynnu'r modd y mae pob un o'r fframweithiau hyn yn ystyried gwleidyddiaeth ryngwladol, ac ar gyfer pob safbwynt
- trafod syniadau a meddylwyr sy'n sail iddo
- amlinellu ei brif syniadau a'i gysyniadau
- disgrifio ei brif gwestiynau a'i ystyriaethau
- dangos ymwybyddiaeth o'i gryfderau a'i wendidau
- dangos ddealltwriaeth fanwl o awdur arbennig
Disgrifiad cryno
Dyma'r ail o ddau fodiwl sy'n cyflwyno Gwleidyddiaeth Ryngwladol.  Rydym yn gobeithio y bydd yn cynnig golwg newydd, cyffrous a heriol ar y pwnc.  Yn y modiwl cyntaf IP/GW10110 yn ystod semester 1 cyflwynwyd y disgrifiad Realaidd traddodiadol.  Mae'r modiwl nesaf hwn yn cyflwyno pedwar safbwynt cyfoes, a phob un yn anghytuno a'r fframwaith a gefnogir gan y Realwyr.  Ar lawer ystyr maent yn cynnig mwy o her ac yn fwy anodd i'w hastudio am eu bod yn wahanol i'r safbwynt synnwyr cyffredin sydd mor arferol mewn cyd-destun anacademaidd a gewch er enghraifft yn y newyddion neu mewn sgwrs yn y dafarn.  Pwrpas gwaith academaidd yw cwestiynu doethineb confensiynol a gofyn a ellir cyfiawnhau syniadaeth draddodiadol, yn hytrach na chymryd synnwyr cyffredin yn ganiataol.  Mae'r disgrifiadau amgen yn herio'r honiadau am niwtraliaeth a gwrthrychedd a wneir gan y disgrifiad Realaidd, ac yn gofyn i ba raddau y gellir dweud ei fod yn ddisgrifiad 'realistig'.  Maent yn cynnig inni ddiffiniadau amgen a mwy cyffrous o hanfod Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Nod y modiwl
Mae'r modiwl yn cynnig cyflwyniad i bedwar safbwynt cyfoes gwahanol ar Wleidyddiaeth Ryngwladol, y gwahaniaethau rhyngddynt, a'r disgrifiad o wleidyddiaeth ryngwladol a roddir gan bob un.  Ceir pedwar bloc.  Mae pob un yn delio ag un safbwynt.  Byddwn yn canolbwyntio bob tro ar awdur arbennig a thestun allweddol ganddynt er mwyn symleiddio'ch tasg a sicrhau y bydd gennych afael glir erbyn y diwedd ar o leiaf un fersiwn o'r safbwynt yn hytrach na golwg niwlog iawn o sawl un.
Rhestr Ddarllen
Llyfr
J Baylis & S Smith. 
The Globalisation of World Politics. OUP
D Held. 
Prospects for Democracy. Blackwell 1992
C Enloe. 
Bananas, Beaches and Bases. Pandora 1989
D Campbell. 
National Deconstruction. Minnesota 1998
I Wallerstein. 
The Modern World-System. Academic Press 1974-1989