Cod y Modiwl GW10510  
Teitl y Modiwl HANES RHYNGWLADOL1: O YALTA I FIETNAM 1945 - 68  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Yr Athro Mick Cox  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus IP10510  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Awr (20 x 1 awr) (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr (5 x 1 awr) (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Traethodau   1,500 o eiriau.   30%  
  Arholiad   2 Awr   70%  

Nod y modiwl


Amcan y modiwl hwn yw olrhain esblygiad cyfundrefn y byd rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd ym 1945 a Rhyfel Fietnam ym 1968.

Amcanion


Ar ddiwedd y modiwl hwn, dylech fedru:


- esbonio cynnydd yr UDA a'r UGSS i'w hamlygrwydd rhyngwladol
- deall y gwahanol ddamcaniaethau am y gyfundrefn ryngwladol wedi'r Rhyfel Byd
- cymharu a chyferbynnu effaith y Rhyfel Oer yng ngorllewin Ewrop ac Asia
- esbonio cynnydd y Trydydd Byd
- trafod gwreiddiau a chanlyniadau'r ras arfau
- deall economi wleidyddol y Rhyfel Oer
- disgrifio'r prif newidiadau mewn comiwnyddiaeth ryngwladol ar ol 1953
- esbonio gwreiddiau a chanlyniad ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Fietnam
- cloriannu'r prif newidiadau yn strwythur cyfundrefn y byd rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd a Rhyfel Fietnam

Rhestr Ddarllen

Llyfr
T Vadney. The World since 1945, 2nd ed (1992).
S Ambrose. Rise to Globalism: American Foreign Policy since 1938, 6th ed (1991).
M Walker. The Cold War and the Making of the Modern World (1994).