Cod y Modiwl |
GW10710 |
Teitl y Modiwl |
GWLEIDYDDIAETH Y DEYRNAS UNEDIG |
Blwyddyn Academaidd |
2001/2002 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Dafydd Trystan-Davies |
Semester |
Semester 1 |
Elfennau Anghymharus |
IP10710 |
Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | 18 Awr (18 X 1 hour) |
|
Seminarau / Tiwtorialau | 5 Awr (5 x 1 hour) |
Dulliau Asesu |
Traethodau | 1,500 o eiriau | 30% |
|
Arholiad | 2 Awr | 70% |
Disgrifiad cryno
Rhagarweiniad yw'r modiwl hwn i wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig ac i'r system y mae'r wleidyddiaeth yn gweithio ynddi. Ar ol edrych yn gryno ar y cyd-destun hanesyddol a sefydliadol, byddwn yn edrych ar y ffordd y caiff gwleidyddiaeth ei gweithredu trwy ystyried cyfres o faterion cyfoes. Gall rhain amrywio yn ol yr hyn sy'n digwydd ar y pryd, ond fel arfer byddent yn cynnwys materion tebyg i hyn: Ewrop, datganoli a dirywiad graddol San Steffan; rhywedd, hil a dosbarth ym mywyd gwleidyddol y Deyrnas Unedig; newidiadau cyfansoddiadol, gan gynnwys Arglwyddi; a deinameg cyfnewidiol grym y pleidiau.
Nod
Nod y modiwl yw archwilio peirianwaith system wleidyddol y Deyrnas Unedig trwy ystyried y ffordd y mae'n gweithredu mewn perthynas a datblygiadau a digwyddiadau cyfoes.
Amcanion
Erbyn diwedd y modiwl, dylai myfyrwyr:
- allu adnabod tueddiadau allweddol yn natblygiad gwleidyddiaeth gyfoes y Deyrnas Unedig.
- allu deall a dangos perthynas y safleoedd grym sy'n cael eu dal gan yr amrywiol weithredwyr yn y broses wleidyddol, yn ogystal a thensiynau a gobeithion y gweithredwyr gwleidyddol hyn.
- allu dangos ymwybyddiaeth feirniadol o gyd-destun y llif di-baid o newyddion gwleidyddol, yn ogystal a geiriau a gweithredoedd y gwleidyddion sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig heddiw.
Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
P Norton. (1994)
The British Polity. 3rd.
A Birch.
British System of Government 10th ed.
W Coxall & L Robins. (1994)
Contemporary British Politics. 2nd.
D Childs.
Britain since 1945: Political History, 3rd (1992).
D Kavanagh. (1996)
British Politics, Continuities and Change. 3rd.