Cod y Modiwl GW11210  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Richard Wyn Jones  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus IP10210  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr (yn Gymraeg)  
  Seminarau   5 Awr (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Traethodau   1,500 o eiriau.   30%  
  Arholiad   2 Awr   70%  

Disgrifiad cryno


Pwy bynnag ydym, yn ddinasyddion cyffredin, neu ryw Tony Blair, George W Bush neu Fidel Castro, mae'r ffordd rydym yn deall y byd, a sut s syniwn am ffordd y dylai'r byd fod, yn sail i'n holl weithgareddau gwleidyddol. Mae'r modiwl hwn yn astudio rhai o'r syniadau allweddol sy'n sylfaen i benderfyniadau gwleidyddol.


Mae'r cwrs yn cychwyn trwy gyflwyno'r syniadau a gynigir gan amrediad o feddylwyr gwleidyddol pwysig, yn eu plith meddylwyr sydd wedi ysbrydoli democratiaeth ryddfrydol, comiwnyddiaeth a rhyddfreinio merched. Byddwch yn dysgu am Machiavelli, Rousseau, Marx a Mary Wollstonecraft ymhlith llawer eraill sydd wedi cael dylanwad ar wleidyddiaeth gyfoes. Mae'r ail ran yn ystyried tair cysyniad gwleidyddol allweddol; sef cydraddoldeb, rhyddid a chyfiawnder. Mae'r cysyniadau hyn wrth wraidd ffyrdd o drefnu bywyd gwleidyddol, yn enwedig mewn democratiaeth, ac mae meddwl amdanynt yn codi cwestiynau sylfaenol ynghylch y ffordd orau o ymddwyn yn wleidyddol. Mae'r drydedd ran yn ystyried yr ideolegau gwleidyddol a fu'n ganolog i wleidyddiaeth yr ugeinfed ganrif; rhyddfrydiaeth, sosialaeth, ffeminyddiaeth, ceidwadaeth ac amgylcheddaeth. Yn gyffredinol mae'r modiwl yn cynnig sylfaen gadarn i astudio gwleidyddiaeth a gwleidyddiaeth ryngwladol am ei fod yn astudio'r syniadau a'r gwerthoedd sy'n sail i'r cyfan.

Nod y modiwl


Amcanion canolog y modiwl yw:


- cyflwyno y meddylwyr pwysig, y syniadau allweddol a'r ideolegau gwleidyddol mwyaf dylanwadol mewn athroniaeth wleidyddol.
- hyrwyddo'r dealltwriaeth o'r elfen syniadol sy'n treiddio trwy benderfyniadau gwleidyddol, cynllun sefydliadau a
llunio polisiau.

Amcanion


Nod:


Ar ddiwedd y modiwl hwn, dylech fedru:
- dangos dealltwriaeth sylfaenol o waith o leiaf dau feddyliwr gwleidyddol.
- nodi ac asesu gwahanol ddehongliadau o rai syniadau allweddol mewn syniadaeth wleidyddol.
- disgrifio ac asesu'n feirniadol brif nodweddion o leiaf un ideoleg wleidyddol.
- mynegi gwybodaeth o'r fath mewn modd sy'n ddealladwy a deallus.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
Andrew Vincent. Modern Political Ideas.
Barbara Goodwin. Using Political Ideas.
Iain Hampsher-Monk. A History of Modern Political Thought.
Brian Redhead. Political Thought from Plato to NATO.
David Thomson. Political Ideas.