| Cod y Modiwl | DA35020 | 
| Teitl y Modiwl | DAEAR Y WLAD,CENEDLAETHOLDEB, A DIWILLIANNAU LLEIAFRIFOL | 
| Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | 
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Rhys A Jones | 
| Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | 
| Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | 
| Semester nesaf y cynigir | N/A | 
| Rhagofynion |  | 
| Elfennau Anghymharus | GG35020 | 
| Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 18 (cyfuniad o ddarlith a seminar) | 
| Dulliau Asesu | 
| Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion | 
|---|
 | Arholiad Semester | 2 Awr      Arholiad dwy awr | 50% |  | Asesiad Semester | Traethodau: Os cyflwynir i traethodau yn hwyr bydd y marc yn gostwng 5% bob dydd. Y mae angen cwblhau'r holl elfennau er mwyn pasio'r modiwl a bydd y marc terfynol yn gyfuniad o'r holl elfennau. Dau draethawd iw cyflwyno yn wythnosau 6 a 11. | 40% |  | Asesiad Semester | Cyflwyniad Seminar: | 10% |  | Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad (50%) ar traethodau wedi eu hasesu (40%). Os oedd rhewsm dilys (meddygol) dros beidio a chyflwynor gwaith bydd cyfle i gyflwynor elfen(nau) coll am yr ystod cyfan o farcia ar y dyddiad penodol yng nghyfnod yr Arholiadau Atodol. Os methwyd y modiwl oherwydd marciau isel neu am na chyflwynwyd elfen or gwaith, bydd yn rhaid ailsefyll yr holl elfennau (os cafwyd <40% ynddynt i gyd), neu ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen a fethwyd (arholiad neu aseiniad er mwyn cael marc uchafswm o 40% yn y modiwl). Rhaid ir traethodau a ailgyflwynwyd ymwneud a phynciau gwahanol ir rhai a gwblhawyd y tro cyntaf. |  |  | 
Canlyniadau dysgu
Wedi cwblhau''r modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn medru (1) cyfathrebu yn helaeth am y gwahanol ddadansoddiadau a chysyniadau sydd yn ceisio esbonio natur y wladwriaeth a chenedlaetholdeb; (2) dangos eu dealltwriaeth o''r rhyng-berthynas agos rhwng y wladwriaeth fodern a chenedlaetholdeb; (3) mynegu ymwybyddiaeth eang am natur diwylliannau lleiafrifol ledled y byd, ynghyd a gwerthfawrogi y gwahaniaethau a''r tebygrwydd sydd rhyngddynt; (4) dod a themau''r cwrs a''r darllen craidd at ei gilydd; (5) dadansoddi adroddiadau ac erthyglau yn y cyfryngau mewn modd beirniadol, a''u clymu i mewn i brif themau y cwrs.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn darparu ymwybyddiaeth eang i'r myfyrwyr o gysyniadau sydd yn ymwneud a natur y wladwriaeth, cenedlaetholdeb a diwylliannau lleiafrifol. Bydd y modiwl hefyd yn eu galluogi i werthfawrogi patrymau a phrosesau rhanbarthol a chenedlaethol yn y maes hwn sydd yn digwydd ledled y byd. Yn ogystal a hyn, bydd y modiwl yn cynyddu gallu dadansoddol, cymharol, beirniadol a chreadigol y myfyrwyr.
Cynnwys
Cyflwyniad 
Sesiwn 1: Cyflwyniad i'r themau sydd yn cael eu harchwilio. 
Y wladwriaeth 
Sesiwn 2: Diffiniadau a ffurfiant y wladwriaeth gynnar.
Sesiynau 3-6: Y wladwriaeth fodern. Archwilir diffiniadau gwahanol o'r wladwriaeth fodern, yn ogystal a nodi enghreifftiau penodol o natur yr endid hwn.
Cenedlaetholdeb 
Sesiynau 7-8: Cysyniadau cenedlaetholdeb hanesyddol a modern. 
Sesiynau 9-11: Enghreifftiau modern o fuddiannau a phroblemau cenedlaetholdeb
Diwylliannau lleiafrifol 
Sesiwn 12: Y cysyniad o ddiwylliant lleiafrifol.
Sesiynau 13-17: Enghreifftiau hanesyddol a modern penodol yn archwilio natur diwylliannau lleiafrifol.
Sesiwn 18: Casgliad a thrafodaeth.
Rhestr Ddarllen
Erthygls
Anderson, J. (1996) 'The shifting stage of politics: new medieval and postmodern territorialites' 
Society and Space 14, 133-53
Taylor, P.J. (1995) 'Beyond containers: internationality, interstateness, inter-territoriality' 
Progress in Human Geography 19(1), 1-15.
Hall, S. (1995) 'Cultural identity in question' in S. Hall et al. (eds.), Modenity and its Futures. 
Polity Press, Cambridge
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC