Cod y Modiwl | DA38110 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | DOSBARTH TIWTORIAL DAEARYDDIAETH LEFEL 3 | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Rhys A Jones | |||||||||||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Aled P Rowlands | |||||||||||
Cyd-Ofynion | ||||||||||||
Elfennau Anghymharus | GG38110 | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Seminarau / Tiwtorialau | 10 (Cyfarfodydd bob yn ail wythnos yn ystod y ddau semester). | ||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Tri nod penodol sydd iddo. Yn gyntaf, trwy fod yn gyfrwng cysylltiad gweithio agos, bydd yn trafod y problemau cyffredinol, yn rhai academaidd a bugeiliol, sy'n wynebu myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, y bwriad yw bod gan bob modiwl tiwtorial mewn Daearyddiaeth ei faes llafur academaidd annibynnol ei hun. Ar Lefel 3 bydd hwn yn canolbwyntio ar y canfyddiadau academaidd diweddaraf yn y pwnc, gan astudio agweddau daearyddol ar faterion a diwyddiadau cyfoes. Mae'n cynnig i fyfyrwyr y cyfle i gysylltu dadleuon a digwyddiadau cyfredol sy'n codi yn ystod y flwyddyn a'u cyd-destun daearyddol academaidd, a gwerthfawrogi a gwerthuso sylwedd ac arbenigrwydd eu pwnc. Yn olaf, bydd yn trafod maes llafur diffiniedig o sgiliau astudio, gan roi i'r myfyrwyr y gallu i ymdopi'n fwy effeithiol a galwadau astudio academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, a'u galluogi i fanteisio'n fwy cyflawn ar y posibliadau a gynigir yn ein rhaglen.
GWAITH CWRS ACADEMAIDD
Bydd gwaith cwrs academaidd Modiwl Tiwtorial Lefel 3 yn cynnwys astudiaeth o'r canfyddiadau academaidd diweddaraf yn y pwnc a gwerthfawrogiad o agweddau daearyddol ar faterion a digwyddiadau cyfoes, gan annog myfyrwyr i ystyried sut y gellir cysylltu materion a digwyddiadau sy'n codi yn ystod y flwyddyn a chyd-destun trafodaeth mewn daearyddiaeth gan gyfrannu i sylwedd ymchwilio daearyddol. Yn hyn o beth, bydd ei union gynnwys yn newid ac yn ymateb yn ol deinameg ysgolheictod daearyddiaeth. Datblygir y cynnwys academaidd hwn trwy gyfrwng tri darn o waith ysgrifenedig, a phob un ohonynt i'w ddefnyddio ar gyfer asesu. Bydd yr aseiniadau yn ffurfiannol ac yn grynodol, a dylai myfyrwyr ddisgwyl ymateb gan y tiwtor ar ol pob darn o waith ynghylch sut y gellid gwella cyflwyniadau dilynol.
SGILIAU TROSGLWYDDADWY/SGILIAU ASTUDIO
Datbylygir y sgiliau hyn trwy gyfrwng un aseiniad, a'r cynnwys i'w benderfynu gan y tiwtor.
Defnyddir safon gwaith myfyrwyr yn gyffredinol yn y modiwl tiwtorial, gan gynnwys trafodaeth a chyflwyniad llafar, i greu marc asesiad. Wrth gyrraedd y marc hwn, bydd staff yn ystyried hunan-asesiad y myfyrwyr eu hunain o'u gwaith.
Oherwydd hynny, mae marc y modiwl yn gymedr o 3 marc am waith academaidd y cwrs, 1 marc am sgiliau astudio, a 1 marc am safon gyffredinol y gwaith (yn rhannol seiliedig ar arolwg personol o'r flwyddyn gyda'r tiwtor), a phob un o'r rhannau yn cyfrannu 20% i'r asesiad.
Gweler yr adran berthnasol yn y Llawlyfr Daearyddiaeth am wybodaeth ar drefn cyflwyno a dychwelyd aseiniadau tiwtorial.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC