Cod y Modiwl DD10520  
Teitl y Modiwl SIGLO'R SYLFEINI: CYFLWYNIAD I GYNRYCHIOLI A PHERFFORMIO  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr Seminarau.  
  Darlithoedd   20 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Portfolio:  30%
Asesiad Semester Sylwebaeth Lafar:  20%
Asesiad Semester Sylwebaeth Lafar:  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad Gr P:  30%
Further details Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml  

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau''r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
Ymateb yn ddadansoddiadol i ddigwyddiadau diwylliannol Cymreig
Cymhwyso''r termau a ddefnyddir yn ystod y cwrs wrth ddadansoddi digwyddiadau a chyfryngau diwylliannol.
Defnyddio nifer o''r sgiliau a gyflwynir yn ystod y modiwl wrth ddadansoddi digwyddiadau a chyfryngau diwylliannol.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig brasolwg o ddiwylliant cyfoes a thraddodiadol yng Nghymru, gan ystyried i ba raddau y mae'r cyfryw ddiwylliant yn arwydd o undod cenedlaethol a chymdeithasol. Fe fydd hefyd yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ymateb yn academaidd ac ymarferol i'r berthynas rhyngddynt a'r gwahanol agweddau ar ddiwylliant Cymru.

Fe fydd y darlithoedd 2 awr yn cynnwys trafodaethau, deunydd gweledol a thasgau ymarferol. Gosodir tasgau wythnosol i`r myfyrwyr yn ystod wythnosau cyntaf y modiwl, a bydd gofyn iddynt gynnwys y rheini mewn portffolio a fydd yn cyfri am 30% o`u marc terfynol.

Nod

Nod yr Adran wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw:

Sylwi ar sawl enghraifft bwysig o weithgarwch diwylliannol yng Nghymru
Dangos bod diwylliant yn ddibynnol ar ei gyd-destun
Dangos bod i'r profiad Cyfreig gyd-destun rhyngwladol
Dangos bod rheolau neu gonfensiynau pendant yn dylanwadu ar y berthynas rhwng yr unigolyn a'i (d)diwylliant priodol
Dysgu sgiliau neilltuol i'n myfyrwyr sy'n hanfodol bwysig ar gyfer myfyrio'n effeithiol ar bynciau ym maes yr Adran.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Sontag, Susan (gol) (1982) A Barthes Reader London: Cape
Barthes, Roland (1982) Camera Lucida: Reflections on Photography London: Cape
Barthes, Roland (1993) Mythologies London: Vintage
Blackmore, Susan (1999) The Meme Machine Oxford University Press
Lord, Peter (1977) Delweddau`r Genedl Gwasg Prifysgol Cymru
Freeman, Bobby (1996) First Catch Your Peacock Y Lolfa
Genedlaethol

Williams, Euryn Ogwen (1998) Byw Ynghanol Chwyldro Llys yr Eisteddfod Genedlaethol


Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC